Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/295

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfodydd gweddïau, a chyfarfodydd eglwysig. Efe oedd yn codi y canu yn y Bwlch trwy ei oes, yn cyhoeddi, ac yn arolygu yr Ysgol Sul. Pan y byddai myn'd yn y canu, cyfodai ei law i fyny, fel pe buasai yn rhoddi arwydd fod y gynulleidfa yn myned yn nes i'r nefoedd. Meddai ar lawer o ddylanwad yn ei ardal, er rhoddi i lawr arferion drwg yr oes yr oedd yn byw ynddi. Daeth ei hiliogaeth yn wasanaethgar i grefydd mewn gwahanol gylchoedd. Wyres iddo ef ydoedd Mrs. Roberts, a fu yn genhades yn Mryniau Khassia, sef priod y Parch. Hugh Roberts, yn awr o Sir Fflint.

Owen Evan, Tyddyn Meurig.

Cymydog oedd ef i William Davies, Llechlwyd, a pherthyn i gapel y Bwlch yr oedd y ddau. Yr oedd Owen Evan yn hyn mewn dyddiau, ond yn ieuangach fel crefyddwr. Er hyny, cydweithiodd y ddau gyda'r un achos, yn yr un eglwys, am haner can' mlynedd. Ni chawsom ddyddiad ei enedigaeth na'i farwolaeth, ond yn unig ddarfod iddo fyw hyd oddeutu 1850. Ystyrid ef yn ŵr mwy cyfrifol na'r cyffredin yn ei wlad, oblegid yr oedd Tyddyn Meurig yn feddiant iddo. Yr oedd yn 30 oed yn dyfod at grefydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru fwy nag unwaith, ddarfod i esiampl Mr. Vaughan, Tonfanau, (y gwr mwyaf cyfrifol yn yr ardal), yn cofleidio crefydd, dueddu ei feddwl yntau i ddyfod yn grefyddwr. "Trwy ganfod Mr. Vaughan yn ymaflyd mor egniol a dirodres yn achos yr efengyl, ac addiar feddwl uchel am ei gallineb, plygodd meddwl Owen Evan, Tyddyn Meurig, i ddyfod i wrando, ac yn raddol enillwyd yntau i gofleidio yr efengyl, ac i roddi ei wddf yn ngwasanaeth yr Arglwydd Iesu, a bu dros lawer o flynyddoedd yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Bwlch." Creda y cymydogion, wedi clywed yr hanes yn cael ei adrodd o dad i fab, mai wrth wrando John Evans, New Inn, yn Llwyngwril, neu Abermaw, y cafodd ei argyhoeddi, a dywedir i'w argyhoeddiad fod yn nerthol iawn. Yr oedd ol yr argyhoeddiad arno trwy ei oes,