Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/31

Gwirwyd y dudalen hon

Un o'r gwyliau neillduol y byddai llawer o gyrchu iddi yn yr ardaloedd hyn yr adeg yma oedd yr Wyl-mab-sant. Y Sabbath oedd y dydd y cynhelid yr wyl, ac ar hyd y dydd byddai gloddesta, a meddwi, a phob rhysedd yn cymeryd lle; a pharhai y gymdeithas lawen hyd drymder y nos, ac yn fynych hyd oleuni dydd dranoeth. Adroddir am dro digrifol a ddigwyddodd i ddau amaethwr cyfrifol, yn ardal Llaenrchgoediog, wrth ddyfod adref o Wylmabsant Llanfihangel-y-Pennant. Y llan hwnw oedd yr agosaf i'w cartref, ac yr oedd y ddau amaethwr, sef Harry Sion, Nanymynach, a William Sion, Tyddynyberllan, wedi cytuno i fyned yno gyda'u gilydd, ac aros y naill am y Hall. Ond pallodd amynedd William Sion, cychwynodd er's hir amser cyn i'w gymydog, Harry Sion, ddyfod heibio ei dŷ. Pan welodd y diweddaf hyn aeth i ystabl ei gymydog, W. Sion, cyfrwyodd ei farch, ac ymaith ag ef yn farchogwr tua'r wyl i'r llan, ond ni oddiweddodd ei gyfaill er hyny. Cychwynent gyda'u gilydd tuag adref, gefn trymder y nos. "Mae genyf fi geffyl," ebe Harry Sion. "A wnaiff o gario ei ddwbwl?" gofynai y llall. "Gwnaiff" oedd yr ateb. Felly aethant tuag adref, y cymydog yn farchogwr, a'r perchenog wrth ei sgil. Wedi cyraedd Tyddynyberllan disgynodd y perchenog, heb wybod dim hyd yn hyn mai ar ei geffyl ei hun yr oedd wedi dyfod, a disgynodd ei gymydog hefyd, a dywedai, "Cymer ofal o dy geffyl." "Yr andros o honot ti," ebe W. Sion," wrth dy sgil di ar gefn fy ngheffyl fy hun!" Y pryd hyny y gwybu mai ei anifail ef ei hun oedd yr anifail. Digon tebyg fod y ddau o dan ddylanwad y gloddesta oedd wedi bod yn yr wyl. Yn fuan wedi hyn daeth Harry Sion at grefydd, a dewiswyd ef yn flaenor yn Bryncrug, a daeth yn un o'r dynion goreu yn y rhan yna o'r wlad. Ceir coffâd am dano eto yn mhellach ymlaen.

Yn hanes tröedigaeth Lewis Morris, Coedygweddill, Llwyngwril, yr ydym yn cael fod Gwylmabsant Machynlleth yn un o'r rhai penaf yn y wlad, ac yr oedd yn arfer cael ei chynal yn