Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/313

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dref hono. Er ei fod wedi ei fagu o dan aden crefydd, ymddengys mai yn Aberystwyth yr ymunodd â'r eglwys, trwy i'r hen flaenor Richard Jones un diwrnod ymaflyd yn ei fraich, a gofyn iddo a oedd dim awydd ynddo i ymuno â chrefydd; i'r hyn yr ufuddhaodd yn ebrwydd. Diameu fod dechreuad ei wasanaeth mor foreu gyda chrefydd i'w briodoli i fesur mawr i dduwioldeb, a chynghorion, ac esiampl ei fam.

Daeth i Aberdyfi, i ymgymeryd â masnach ei hun yn y flwyddyn 1826. Y flwyddyn hono nid oedd yn y lle na llan na chapel o fath yn y byd. Mae'n wir fod eglwys wedi ei sefydlu gan y Methodistiaid yma er's llawer o flynyddoedd, ond nid oedd yr un blaenor wedi bod erioed hyd yn hyn ar yr eglwys. Yr haf cyntaf ar ol ei ddyfodiad ef i Aberdyfi y gwnaed y dewisiad cyntaf. Yn ol ei adroddiad ei hun, efe oedd un o'r ddau gyntaf a ddewiswyd, ac yn nechreu y flwyddyn ddilynol y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Abermaw, a'r Parch. John Roberts, Llangwm, oedd un o'r ddau a arwyddodd docyn aelodaeth iddo. Yn y flwyddyn 1827 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Aberdyfi, ac aeth O. W. yr holl ffordd i Gyfarfod Misol Dolyddelen i ofyn caniatad i'w adeiladu. Yr oedd ef a'r achos yn Aberdyfi wedi cyd—dyfu gyda'u gilydd. Yn 1840 priododd Miss C. Humphreys, nith i Cadben John. Ellis, gyda'r hwn y cawsai hi ei dwyn i fyny. Yr oedd tŷ Cadben Ellis wedi bod yn gartref i'r achos yn Aberdyfi dros. lawer o flynyddoedd. A bu y nith a'i phriod yn cadw cartref i weinidogion yr efengyl am amser maith wedi hyny. Ac y Mae yn deilwng o sylw iddynt ddwyn eu plant i fyny oll yn grefyddol. Yr oedd Owen Williams yn ddolen gydiol rhwng crefyddwyr cyntaf y wlad â'r oes bresenol. Gwelodd a chlywodd Mr. Charles o'r Bala ddwywaith yn ei oes. Bu yn cyd-oesi â thair oes o bregethwyr, ac â phob tô o flaenoriaid yn y rhan o Sir Feirionydd yr oedd yn byw ynddi. Bu ei enw yn gysylltiedig hefyd a'r prif ddigwyddiadau yn Aberdyfi, yn wladol a chre-