Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/319

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod Misol cyntaf ar ol ei golli, ac y mae yr hyn a ganlyn i'w weled yn adroddiad y cyfarfod hwnw: "Yr oedd Mr. Rees yn dywysog ymhlith ei frodyr. Yr oedd yr Arglwydd wedi ei lwyddo mewn pethau tymhorol, ac yr oedd ei enaid wedi lwyddo yn fawr. Yr oedd yn ddyn cywir a defnyddiol mewn gwlad ac eglwys. Elai ar ei union i'r nefoedd ymhob cynulliad crefyddol, a meddai ar fedr tuhwnt i'r cyffredin i ganmol y Gwaredwr. Yr oedd yn fawr yn y dirgel, yn fawr yn y weddi deuluaidd, ac felly yn fawr yn yr amlwg. Cyrhaeddodd ddylanwad yn ei ardal ac yn y Cyfundeb, a hyny oblegid ei grefydd a'i foneddigeiddrwydd." Bu farw Medi 1879, yn 68 mlwydd oed, ac y mae hyd heddyw deimlad o chwithdod a cholled ar ei ol ymysg ei gyd-drefwyr a'i gydgrefyddwyr.

Thomas Jones, Voel Vriog, Corris.

Yn Caethle, gerllaw Towyn, yr oedd yn preswylio y saith mlynedd olaf o'i oes; ond adnabyddid ef yn fwyaf cyffredin wrth yr enw sydd uwchben yr ysgrif hon. Mab ydoedd i Meredith Jones, Penybont, Corris. Ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1823. Cafodd ei ddwyn i fyny yn blentyn yn yr ardal rhwng Corris a Machynlleth; ac yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, tra yr oedd yn llanc ieuanc, ac hyd yn nod wedi iddo dyfu i oedran gŵr, yr oedd yn fwy difeddwl a difater na'r cyffredin. Rhoddodd ei gymydog, yr ysgrythyrwr a'r Cristion cywir, Richard Jones, Bronyraer, fenthyg Geiriadur Mr. Charles iddo, ac wrth ddarllen y llyfr hwnw y daeth i feddwl gyntaf fod dim pleser ac adeiladaeth i'w gael heblaw mewn oferedd a phleserau y byd hwn. Wedi iddo briodi, ac ymsefydlu, fel y dywedir, yn y byd, dechreuodd ymroddi o ddifrif gyda'r byd a chrefydd, ac fe lwyddodd yn fawr yn y naill a'r llall. Dechreuodd ei fywyd yn ngwaelod pentref Corris. Cafodd, mae'n wir, fagwraeth a meithriniaeth dda i'w grefydd gyda'r hen grefyddwyr, a'r hen flaenoriaid ffyddlon yno. Gweithiai yn y chwarel y rhan gyntaf o'i oes, mewn lle a elwid