Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/328

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwng y gweinidog ac yntau foddion eich tröedigaeth?" "Pa un oedd yr adnod a fu yn "Yr adnod hono yn Matt. x. 29, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau." "A ydych yn cofio pwy oedd yn pregethu arni?" "O, nid oedd neb yn pregethu arni, dyfod i fy meddwl ar y mynydd a wnaeth." "Pa beth oedd eich oed y pryd hwnw?" "Llefnyn o fachgen tuag ugain oed, a'r ysgogyn balchaf a droediodd y ddaear erioed." Pawb a adwaenent W. James a wyddant nad oedd neb yn yr holl wlad yn fwy gwylaidd a gostyngedig nag ef am weddill ei oes, beth bynag oedd cyn ei argyhoeddiad. Dichon fod a fyno yr olwg a gafodd y pryd hwn ar y Ceidwad â pheri iddo ymgydnabyddu â'r hanes am dano yn y gair dwyfol. Anfynych y ceid neb yn yr un o siroedd Cymru yn fwy cadarn yn yr Ysgrythyrau. Pryd bynag y cyfarfyddai â gweinidog, neu bregethwr, neu flaenor, neu unrhyw ddyn crefyddol, byddai ganddo adnod eisiau cael esboniad arni, neu bwnc eisiau cael ychwaneg o oleuni arno; nid am nad oedd ganddo farn ei hun, ond am mai dyna lle yr oedd ei feddwl a'i fyfyrdod parhaus. Pan ddeuai y pregethwr i dŷ y capel, byddai ganddo gowlaid o gwestiynau i'w gofyn iddo. Yn y Cyfarfodydd Ysgolion gorfodid rhoddi y brake arno yn aml, onidê ni chai gweddill yr ysgol gyfle i ateb.

Yr oedd yn un o'r blaenoriaid goreu i gynghori yn yr eglwys ac i drin profiadau y saint. Ond nid oedd neb cadarnach ei feddwl mai gwaith gweinidog ydyw arwain mewn pethau ysbrydol; a'r hyn a allodd ef i beri fod gweinidogion ar yr holl eglwysi fe'i gwnaeth. Rhoddid y cyfle iddo bob amser i agor y seiat; gwnai yntau hyny mewn ychydig sylwadau byr ac at y pwrpas; ac ar y diwedd drachefn, nid araeth fyddai ganddo, ond sylw yn unig, a thrwy y sylw, tarawai yr hoel ar ei phen. Er ei fod yn hen mewn dyddiau, yr oedd mor ieuanc ei ysbryd fel y gallai gydfyned â phob symudiad o eiddo y Cyfundeb gyda'r parodrwydd mwyaf.