Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/336

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweled un, ac wedi bod ynddi rai gweithiau. O leiaf, yr oedd Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu yn Mryncrug, gan John Jones, Penyparc. Anturiodd yntau geisio gan ieuenctyd ei ardal wneyd yr hyn nas gallai wneyd ei hun. Ond y cyfryw ydoedd ei fedr i drin plant, fel yr ymdyrent ato i'r ysgol. Dysgai y wyddor i'r rhai lleiaf, trwy eu cael oll i'w chydganu ar y dôn, "Ymgyrch Gŵyr Harlech," a ddysgasai ei hun pan gyda'r militia rai blynyddau yn flaenorol. Adroddir am y cenhadwr enwog Robert Moffat, iddo yntau gymeryd yr un cynllun gyda phaganiaid duon Affrica; dysgai y wyddor Saesneg iddynt trwy eu cael i'w chanu ar dôn genedlaethol Scotland, "Auld Lang Syne."

Ond prif gamp L. W. oedd y ddyfais i allu dysgu y dosbarth uchaf, ac yntau heb allu darllen ei hun. Llwyddodd ryw gymaint gyda hyn drwy fyned cyn yr ysgol ar y Sul a nosweithiau gwaith at chwaer grefyddol, Betti Ifan—yr hon rywfodd a fedrai ddarllen yn dda—i gael gwers ei hun yn y gwersi oeddynt i ddyfod dan sylw yn yr ysgol y tro nesaf. Brydiau eraill, cymerai nifer o ysgolheigion o blith y darllenwyr goreu o Ysgol Waddoledig Llanegryn, a rhoddai hwynt i ymryson darllen am wobr fechan. Testyn yr ymryson fyddai y wers oedd i fod dan sylw yn yr ysgol y tro canlynol. Efe fyddai y beirniad! Craffai yn fanwl arnynt yn seinio pob llythyren, ac yn y modd hwn, megis yn wyrthiol, llwyddodd i gyraedd gradd o wybodaeth fel ag i benderfynu pwy fyddai bia y wobr. "Yr oedd eisiau dechreu a diweddu y cyfarfod drwy weddi. Y ddyfais a arferai ar y cyntaf i gadw ei arabiaid ieuainc anwaraidd yn llonydd a distaw, iddo allu gweddïo oedd, gwneyd iddynt fyned trwy y gwahanol ymarferiadau milwrol, neu fel y galwai ef y gwaith, chwareu soldiers bach, fel y dysgasai ef ei hun gyda'r militia. Pan y deuent at y stand at ease, a'r attention, safent oll yn llonydd, ac wele yn y fan weddi fer drostynt i'r nef. Ar ddiwedd y cyfarfod ychwanegid y quick march"—allan."