Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/366

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

breintiau ydyw gallu dweyd eu bod yn dal perthynas âg un a safodd mor ddewr dros y gwirionedd. "Yr oedd gradd o ysbryd yr hen ferthyron," ebe John Evans, o'r Bala, "yn cael ei roddi i'r crefyddwyr hyn ar achlysuron i sefyll dros yr efengyl, yn ngwyneb y peryglon mwyaf."

Dywed Mr. Hughes yn Methodistiaeth Cymru, mai y bregeth gyntaf a bregethwyd wrth oleuni dydd yn Nolgellau oedd, gan Mr. Griffiths, gweinidog gyda'r Annibynwyr, o Gaernarfon. Ond nid yw yn rhoddi y dyddiad. Daeth cyfreithiwr o Gaerlleon i'r dref, yr hwn a glywsai am yr erlid mawr oedd wedi bod ar y crefyddwyr, a theimlai yn eiddigeddus dros iddynt glywed yr efengyl yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Wedi deall am y creulonderau a'r ffyrnigrwydd a ddangoswyd tuag atynt, penderfynodd roddi prawf ar y cyfryw greulonderau, er boddlonrwydd iddo ei hun, cyn iddo ymadael o'r dref. Y ffordd a gymerodd ydoedd, ymholi a oedd pregethwr yn y lle a roddai gais ar bregethu. Cafwyd fod y gŵr a enwyd, sef Mr. Griffiths, o Gaernarfon, yn y dref, ac yn foddlawn i bregethu. Y gorchwyl nesaf oedd chwilio am dŷ iddo bregethu ynddo, oblegid ofnai pawb wneuthur hyn yn ngoleu dydd. Hyn hefyd a gafwyd, trwy i un John Lewis agor drws ei dy i'r amcan, ac addefai yntau fod math o gryndod wedi ei feddianu o'r fynyd yr addawodd roddi ei dy hyd nes y dechreuwyd yr odfa. Rhodiai y cyfreithiwr o amgylch y drws, gan gymell y bobl i fyned i mewn, a rhoddai ei was hefyd ar wyliadwriaeth i edrych pwy fyddai yn aflonyddu. Ond ni ddaeth neb i aflonyddu y tro hwn, oherwydd eu bod yn ofni gŵr y gyfraith, mae'n debyg; a dywedir y bu pregethu yn nhy John Lewis lawer gwaith wedi y tro hwn. Dyna fel yr adroddir am y bregeth gyntaf a bregethwyd yn y dref yn ngoleuni dydd. Nis gwyddom pa fodd i gysoni hyn â'r ffaith ddarfod i Howel Harries a Daniel Rowlands fod yn pregethu yn y dref, os na chymerodd y digwyddiad hwn le cyn eu hymweliad hwy. Ond mwy tebyg ydyw fod yr erledigaeth wedi