Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru adroddir yr hanesyn canlynol a gymerodd le yn yr un cyfnod. "Un tro, yr oedd y person a'r clochydd yn myned i roddi y cymun i ffermwr oedd yn glaf. Daeth y clochydd i'r tŷ o flaen y person, a gofynodd yr hen wraig iddo, "Pa beth sydd genych chwi Tomos yn y cŵd gwyrdd yna?" "Beibl a Chommon Prayer" ebai yntau. "Rhoddwch wel'd y Beibl Tomos?" Dyma fo modryb" ebai Tomos. "Wel, moliant i'r gŵr goreu," ebai yr hen wraig, "ni bu yma yr un o'r blaen erioed yn ein tŷ ni, nac angen am dano erioed o'r blaen, moliant i Dduw am hyny."

Ymhlith arferion niweidiol a chreulon y wlad, yn niwedd y ganrif o'r blaen, ac ymhell ymlaen i'r ganrif hon, feallai mai y mwyaf cyffredinol ydoedd ymladd ceiliogod. Un o arferion barbaraidd gwlad heb ei gwareiddio ydoedd hon. Ymddengys ei bod wedi gwreiddio yn ddyfnach yn ein gwlad na'r un o'r ofer-gampau y clywsom y tadau yn son am danynt. Un rheswm am hyn oedd fod pob gradd, o'r boneddwr i lawr at y dyn tlawd, yn cymeryd rhan yn y chwareuon hyn. Ni byddai neb ond y boneddigion a ffermwyr clyd yn meddianu anifeiliaid i redeg yn y rhedegfeydd ceffylau, ond gallai y dyn tlawd fod yn berchen ceiliogod i'w dwyn i'r ymrysonfa. Dywed y rhai sydd wedi bod yn ysgrifenu hanes y wlad am y cyfnod hwn, mai yr adeg ar y flwyddyn y byddai ymladd ceiliogod yn cymeryd lle fyddai Iau Dyrchafael, Gwener y Groglith, a Llun y Pasg. Un sydd yn fyw yn awr, ac wedi gweled llawer o'r arferiad hwn, a ddywed, mai dydd Llun y Pasg oedd y diwrnod mawr yn yr ardaloedd hyn. Adrodda yn mhellach ei fod ef wedi bod ei hun mewn cockin ceiliogod yn Abergynolwyn, ac yn cario ceiliogod ar ei gefn yno i ymladd, pan yr oedd yn fachgen ieuanc. Yr oedd Abergynolwyn yn lle canolog, a byddai ardaloedd Llanegryn a Machynlleth yn cyd-gyfarfod yno i ymryson â'u gilydd, a dywed y gŵr y cyfeiriwyd ato uchod ei fod yn cofio gweled ochr y mynydd yn ddu o bobl yn cyrchu tuag yno o Fachynlleth ar ddydd Llun y Pasg. Nid