Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ardal o Lwyngwril i Gorris heb fod pit ceiliogod ynddi, ond ystyrid ambell i le yn fwy enwog na'i gilydd i gario ymlaen yr ymladdfeydd, megis Abergynolwyn, lle byddai ardal yn cyfarfod yn erbyn ardal, a phlwy yn erbyn plwy. Y gwanwyn oedd yr adeg fwyaf manteisiol o'r flwyddyn i'r gwaith hwn, oblegid dyma yr adeg y byddai y ceiliogod yn y cyflwr goreu i ymladd, yn hoew, yn gryfion, ac yn llawn nerth. Byddai ambell i wr mewn ardal yn flaenllaw iawn gyda'r ymladdfeydd, yn cael ei ystyried yn hero yr ardaloedd o gwmpas; darparai nifer mawr o adar pwrpasol, y rhai a adnabyddid wrth yr enw game cocks, a byddai un yn cael ei gadw iddo ymhob ffermdy yn barod erbyn y tymor ymladd, yn debyg fel y cadwai tenantiaid gwn hela i'w meistriaid tir. Yr oedd offeiriad mewn plwyf yn y sir yn magu ceiliogod i'r amcan hwn, y rhai a gedwid yn barod iddo gan amaethwyr ei blwyf. Yr oedd yn yr un plwyf wr duwiol perthynol i'r Methodistiaid; ar y Sabbath yr elai yr offeiriad i geisio ei geiliogod, gan eu cario dan ei gesail i fod yn barod erbyn boreu Llun, ac os digwyddai iddo gyfarfod y gŵr duwiol, troai yn ei ol gan ei arswyd. Gwisgid y ceiliogod âg arfau pwrpasol i ryfel cyn y gollyngid hwy i'r pit i ymladd; rhwymid yspardynau dur, mawrion, hirion, yn dynion am eu traed, a thynid ymaith y plyf oddiam eu gyddfau, er mwyn iddynt fod yn ysgafn i wynebu y frwydr; ac os digwyddai i'r aderyn daro ei wrthwynebydd yn deg â'r yspardynau llymion oedd am ei goesau, dyna ddiwedd ar yr ymladdfa ar unwaith, a pherchen yr aderyn wedi enill y game. Y mae gan Mr. David Rowlands, Pennal, bâr o'r arfau hyn yn ei feddiant, wedi eu cael ar ol ei hynafiaid, ac y maent yn cael eu cadw yn ofalus er cof am yr hen arferion poblogaidd yn yr amser gynt. Yr oedd yn un o ardaloedd y cylch hwn wr bonheddig dall yn byw, yn berchen un o'r etifeddiaethau mwyaf yn y wlad, yr hwn oedd yn bengampwr mewn ymladd ceiliogod. Er ei fod yn ddall, ymhyfrydai yn y gorchwyl hwn; ymgymysgai â'r