Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/388

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanfachreth, pan oedd yr erledigaeth yno yn ei llawn rym. Dywedwyd am dano mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Ysgol Sabbothol ar ol ei farw:— "Gorfu i ni deimlo dyrnod eto yn marwolaeth yr hynafgwr parchus, Edward Richard. Gallesid ei alw ef gyda phriodoldeb yn dad yr Ysgol Sabbothol yn ein plith. Dywedir iddo fod am ysbaid o amser yn unig bleidiwr iddi yn Nolgellau, sef pan ei sefydlwyd yma gyntaf, a pharhaodd yn ffyddlon tuag ati hyd y diwedd." Bu farw Awst 5ed, 1829, yn 71 mlwydd oed.

Roger Edwards.—Yr oedd ef yn dad i'r Parchedig Roger Edwards. Cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddydd Ion. 10fed, 1831, yn 52 mlwydd oed. Ystyrid ef yn un o'r rhai rhagoraf o ran ei gymeriad a fu yn y dref erioed. "Y duwiol a'r defnyddiol Roger Edwards" y gelwid ef. Yr oedd yn feddianol ar gymwysderau nodedig gyda gwaith yr Ysgol Sul, ac i flaenori mewn pethau ysbrydol yn yr eglwys. Cynghorwr grymus ydoedd yn y naill a'r llall, a mynych y clywid y geiriau canlynol ganddo ar ddiwedd ei gynghorion, "Gwerth enaid, byrdra amser, a meithder tragwyddoldeb." Yr oedd yn esiampl dra rhagorol o henadur eglwysig, gan ei fod "oran ei ysbryd yn un bywiog a nefol, o ran ei ddawn yn un gwlithog ac effeithiol, ac o ran ei fywyd yn un dichlynaidd a duwiol." Cofir am dano fel un a osodai gymaint o'i ofn ar anuwiolion y dref, fel y cilient o'r ffordd pryd bynag y goddiweddai ef hwy yn gwneuthur drwg.

John Jones (skinner) ydoedd un o flaenoriaid tywysogaidd Salem, mewn tymor diweddarach na'r rhai a grybwyllwyd. Ganwyd ef yn y lle a elwid y Pandy, yn 1787. Bu am dymor pan yn ieuanc yn Worcester, ac elai i addoli yno i gapel Arglwyddes Huntington. Wedi iddo ymsefydlu yn Nolgellau, tua'r fl. 1818, dewiswyd ef yn ddiacon yn nghapel Salem. Bu yn ymroddedig iawn i achos crefydd hyd ddiwedd ei oes. Ei briod hefyd oedd yn wraig dra rhinweddol a chrefyddol er yn ieuanc. Y ddau hyn oeddynt yn enwog yn eu dydd am