Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/395

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedir mai yr hyn a barai iddo fod mor llwyddianus fel athraw oedd, ei fywiogrwydd, ei zel, ei yni, a'i fyddlondeb. Yr oedd yr elfenau hyn ynddo hefyd yn ei wneuthur yn holwyddorwr galluog. Ond cyrhaeddodd ei ddefnyddioldeb yn mhellach na'r ysgol yr oedd yn athraw ynddi. "Bu yn ddefnyddiol iawn am flynyddau lawer yn Nosbarth Ysgolion Dolgellau fel ysgrifenydd y dosbarth am dymor maith, fel ymwelydd mynych a'r ysgolion, ac fel llywydd y dosbarth am rai blynyddau. Yn y cymeriadau hyn daeth yn ddyn i'r wlad oddiamgylch yn gystal ag i'r dref."

Peth arall y rhagorai yn fawr ynddo, os nad yn fwyaf o ddim, ydoedd fel dirwestwr. Ymunodd a dirwest yn y cychwyn cyntaf. Rhoddodd y diwygiad mawr dirwestol yn 1837 gychwyniad ynddo i fod yn weithiwr diball hyd ddydd ei farwolaeth gyda phob achos er llesoli ei gyd-ddynion. Efe, meddir, oedd prif golofn dirwest yn y dref. Yn ei dy ef cedwid llyfr dirwest, yn barod bob amser i feddwon y dref droi i mewn i ardystio â'u llaw. Fel y dywedir am y Gwaredwr ei fod yn "gyfaill pechaduriaid," felly y dywedid am David Jones ei fod yn yr ystyr yma yn gyfaill y meddwon. Ei amcan a'i awyddfryd penaf oedd, achub y meddwon, a gwaredu pob dyn ieuane rhag rhodio llwybrau y meddwon. Meddai ar yni, a brwdaniaeth, a medr tuhwnt i fesur i lesoli ei gyd-drefwyr yn yr achos hwn. Am 30 mlynedd bu yn arwain y canu yn nghapel Salem, ac ar ddiwedd y tymor hwn cydnabyddodd yr eglwys ei wasanaeth, trwy roddi anrheg iddo am ei ffyddlondeb. Bu am dymor hwy hefyd yn goleuo y capel. Ac nid oedd neb parotach nag ef i wneuthur pob gwaith a berthynai i'r eglwys. Pan fyddai rhyw orchwyl eisiau ei wneuthur, a phawb wedi ymesgusodi, troid ato ef a gofynid-"Dafydd Jones, a wnewch chwi?" "Mewn mynyd, os na wnaiff neb arall," fyddai yr ateb bron bob amser.

Medi 6, 1863, dewiswyd ef yn flaenor eglwysig, ond yr oedd yntau fel llawer wedi gwneuthur gwaith blaenor flynyddau