Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/402

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn. Yr oeddynt yn zelog gyda'r Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd y plant, ac mewn amser enillwyd hwynt oll i ymgyflwyno i grefydd, ac i wneyd eu cartref gyda'r Methodistiaid. Cawn fod Mr. Rees yn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod pan yn ŵr ieuanc dwy ar bymtheg oed, ac o hyny allan yn gysegredig hollol i grefydd. Nid oedd o gyfansoddiad cryf, ac ni fyddai byth yn cymeryd rhan yn chwareuon y plant. Ond os na allai oherwydd eiddilwch ragori mewn campau, byddai bob amser ar ben y rhestr yn ei ddosbarth yn y Grammar School. Ac un diwrnod mae ei athraw a'r person yn dyfod at ei rieni, ac yn dweyd ei fod wedi myned mor bell ymlaen mewn dysgeidiaeth fel na fyddai o un fantais iddo aros yno yn hwy, ond os byddai iddo ymgyflwyno i'r weinidogaeth mewn cysylltiad â'r Eglwys Wladol, y byddai iddynt hwy ei anfon i Rydychain, a gofalu am yr holl draul.

Yr oedd ei rieni yn falch o'r cynygiad ac yn llawn awydd am iddo yntau ei dderbyn. Ond ei wrthod a wnaeth ef yn benderfynol. Pan yn Llundain gwnaed ymosodiadau arno drachefn, ac y mae yntau yn ysgrifenu llythyr at ei fam, Gorphenaf 28, 1840. ac yn peri iddi ddweyd wrth J. Jones, sef y clochydd yn Nolgellau ar y pryd, "I will make my letter more compact and complete and show my reasons. for my opinion, so that they may not think I am half a Dissenter. I think that there is free will in the choice of our religion, wherever else our will is bound. But though I don't consider myself bound by Cyffes Ffydd, or anything else, to be a Methodist against my will, still I am a sincere Methodist and thoroughly convinced Calvinist after all, for so I think my Bible teaches me. I am bound to say so and to act so or insult my reason and my conscience, and so act the part of a hypocrite' Dengys y dyfyniad uehod o'i lythyr at ei fam pa mor drwyadl Ymneillduwr ydoedd y pryd hwn.

Cafodd ei rwymo yn egwyddorwas o feddyg gyda Dr Evans, Dolgellau, am 5 mlynedd, ond cyn pen tair blynedd gwelwyd nad oedd o gyfansoddiad digon cryf i fyned ymlaen fel meddyg,