Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/405

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymerwyd ef yn lled sydyn oddiwrth ei waith at ei wobr,. Chwefror 12, 1881.

Y PREGETHWYR.

Y Parch. Edward Ffoulk. Perthyna i'w hanes ef ddau hynodrwydd; efe oedd y cyntaf o'r pregethwyr adnabyddus a ddechreuodd bregethu yn Ngorllewin Meirionydd; ei oes ef oedd yr hwyaf yn y weinidogaeth o'r holl restr. Dechreuodd bregethu yn 1789, a bu farw Ebrill 3, 1855, yn 92 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu dros 66 o flynyddau. Efe oedd y pregethwr hynaf er's peth amser cyn ei farw a berthynai i'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Evan Ffoulk, Llanuwchllyn, ac yn ewythr i'r Parchn. Ffoulk Evans, Machynlleth, a Robert Evans, gynt o'r Roe, ac yn berthynas hefyd i amryw weinidogion a phregethwyr eraill. Ganwyd a magwyd ef yn Llanuwchllyn,. lle hynod er yn fore am wybodaeth ysgrythyrol, ac yr oedd yntau er yn ieuanc wedi ymgydnabyddu â'r gair. Ni chafodd dröedigaeth hynod, fel llawer yr oes hono, ond enillwyd ef yn raddol i fod yn un o ganlynwyr yr Iesu. Priododd ferch i glochydd Llanfachreth, a symudodd yno i fyw. Yr oedd yn dra chydnabyddus a helyntion crefydd yn yr ardal hono o'r dechreuad, cyn iddo ef ei hun ddechreu pregethu. Gyda ei dad yn nghyfraith, y clochydd, y trigai am ysbaid ar ol priodi, a thrwy ei ddylanwad ef yr agorwyd drws y hwnw i'r Methodistiaid gael pregethu a chynal societies ynddo, pryd nad oedd yr un tŷ arall i'w gael. Dechreuodd bregethu ei hun o dan yr amgylchiadau mwyaf anfanteisiol, yn unig am fod cariad Crist yn ei gymell, a chafodd brofi pwysau trymion erledigaeth yr amseroedd. Y mae yn hysbys, yn ol dywediad Lewis Morris, iddo fod yn gorphwys ychydig ganol dydd. Ac fel hyn y bu. Trwy garedigrwydd Mr. Thomas Pugh, un o flaenoriaid Dolgellau, cafodd ei benodi yn was Sheriff (yr oedd pob gwas Sheriff y pryd hyny yn cael pâr o ddillad newyddion). Yn ol arferiad yr amseroedd