Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/451

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oblegid yr amod hwn a wnaeth y noswaith y cyflwynodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl.

Yn fuan ar ol hyn galwyd arno at y Militia drachefn, yn ol ei ymrwymiad. Bu yn crwydro gyda hwy yn Sandown Castle, Dover, Cornwall, Penzance, a dychwelasant yn ol i'r Bala. Yna rhyddhawyd hwy i fyned bawb i'w gartref, gan iddi fyned yn heddwch. Daliodd afael yn ei grefydd yn ei holl grwydriadau, a gwnaeth ddaioni hefyd i'w gymdeithion digrefydd. Ar ei ddychweliad aeth i'r Cemaes, i orphen ei ymrwymiad fel prentis o grydd. Oddiyno symudodd i Aberdyfi, ac ymhen ychydig cyflogodd am haner blwyddyn i weithio ar y tir, yn Closbach, Llanegryn. Dywed mai dyma y lle y bu agosaf iddo golli ei grefydd, oherwydd nad oedd crefydd yn y teulu. Ei symudiad nesaf oedd at berthynas iddo, i'r Trychiad, yn agos i bentref Llanegryn. Gwnaeth ymrwymiad yn ei gyflogiad y tro hwn, i gael rhyddid crefyddol. Tra yr oedd yn aros yn y lle hwn y cyflogwyd ef gan Mr. Charles, i fod yn ysgolfeistr yr ysgolion cylchynol. Yr hanes dyddorol hwnw a roddwyd eisioes mewn cysylltiad â chrefydd yn yr ardal hono. "Bum dan ofal Mr. Charles," ebai, "am dros 15 mlynedd, ac yr oedd yn fyd da arnaf gyda'r ysgol." Cyflogodd gyda Mr. Charles yn y flwyddyn 1799, ac efe yn 25 oed. Bu yn symudol gyda'r gwaith hwn o'r naill ardal i'r llall, gan ddychwelyd yn ol lawer gwaith i'r un ardal, am bum mlynedd ar hugain. Yr oedd yn ei elfen yn gwasanaethu o dan Mr. Charles, ac yr oedd ei barch iddo yn ddifesur. Ni bu neb erioed yn mawrhau ei swydd yn fwy nag y mawrhai ef y swydd o ysgolfeistr. Efe a ystyrid ar y cyntaf y lleiaf oll ei fanteision o ysgolfeistriaid Mr. Charles, ond troes allan yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus, os nad efe oedd y penaf o honynt. Beth bynag am ei allu a'i fanteision blaenorol, meddai ar ddull llwyddianus i ddenu plant a phobl. Tra bu yn cadw ysgol ddyddiol o ardal i ardal, sefydlodd Ysgolion Sabbothol, a gofalodd am achos crefydd yn ei holl ranau, allanol ac ysbrydol. Ei fanylwch gyda y rhanau allanol, a'i ysbrydol-