Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/455

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwynas a wnaethai i Lewis Evans, aer Garthyfog. Yr ymddiriedolwyr oeddynt—John Davies, Prisca, John Vaughan, College, Lewis Morris, Thomas Charles, Bala, Robert Griffith, Dolgellau, John Ellis, Abermaw, Richard Lewis, Erwgoed, a Robert Richard, Fegla Fawr. Hynod o'r hynafol oedd y capel yn ei wedd gyntefig llawr pridd ar ei waelod, ac heb yr un sêt fawr, na bach ychwaith, mae'n debygol. Gwnaed helaethiad arno yn 1839, trwy estyn un talcen iddo allan. Wedi hyn, yr oedd yr areithfa yn ei ochr, a'r bobl ar dde ac aswy y llefarwr, ac yntau hyd at glicied ei ên yn y pulpud, er iddo sefyll ar ben blocyn gyda hyny. A dyma'r wedd fu arno am agos i 30 mlynedd. Prynwyd y capel, sef y tir o dano, yn y flwyddyn 1857, am £100. Yn 1868 cymerwyd cam ymlaen, trwy adeiladu capel newydd. Aeth yn dipyn o ddadl ynghylch y lle i osod y newydd i lawr—rhai eisiau iddo fod yn yr hen le, ac eraill eisiau ei symud haner milldir yn uwch i fyny, yn nghyfeiriad cloddfa Arthog. Y pryd hwn y cynygiodd y Parch. G. Williams, Talsarnau, mewn cynulliad yn Nolgellau, wrth benderfynu anfon cenhadon yno dros y Cyfarfod Misol, i geisio cael y pleidiau i gydweled, fod i'r cenhadon gynal cyfarfod gweddi yn y lle, gan ychwanegu, "os nad oes digon o râs yn Sion, y mae digon yn y nefoedd." Ond adeiladu y capel yn y lle newydd a wnaed, ar y draul o £600, a thrwy ymdrech y cyfeillion y mae y ddyled wedi ei llwyr dalu er's blynyddau. Nid ydyw yr holl hanes am ddygiad ymlaen yr achos yma wedi myned yn gwbl ango. Tybia rhai o'r hen bobl hynaf fod yr Ysgol Sabbothol wedi dechreu yn Nhŷ Ddafydd. Ond yn y benod ar hanes yr ysgol yn Nosbarth rhwng y Ddwy Afon, rhoddwyd manylion am dani yn cael ei sefydlu gan Lewis Williams, yn y flwyddyn 1813. Bu yr hen ysgolfeistr yma yn cadw ysgol ddyddiol amryw adegau, a'r enw yn ei lyfrau ef ar yr ardal bob amser ydyw, "Blaenau Plwy Celynin." Y mae wedi cofnodi ei fod yn dechreu yr ysgol yma "Chwefror 17, 1813, ar yr amod i Lewis Morris, Richard Lewis, Thomas