Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/470

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1813 priododd, a symudodd oddiyno i Ddolgellau. Yr oedd y pryd hwn yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Wedi dyfod i fyw i Ddolgellau, ymunodd â'r Bedyddwyr, gyda'r rhai y parhaodd yn aelod diargyhoedd hyd derfyn ei oes, yn cael ei fawr barchu gan bawb am ei dduwioldeb. Ei brif gynorthwywyr yn nygiad yr ysgol ymlaen ar y cyntaf oeddynt, gŵr y tŷ lle cynhelid hi, Richard Roberts, a Rees Williams, o'r Gorwyr. Tuag 1812, symudwyd yr ysgol i fwthyn tlawd, a safai ar y lle y saif capel Rhiwspardyn yn awr. Yno, hefyd, o hyny allan, y cynhelid y cyfarfodydd gweddi, a'r odfeuon achlysurol, yn yr ardal. Labrwr tlawd oedd yn byw yn yr hen dŷ y pryd hwn. Talai cyfeillion yr achos ryw gydnabod arianol iddo—rhent y tŷ, fel y tybir—am wasanaeth y tŷ. Y prif offeryn yn ailgychwyn yr ysgol yn hen dy Rhiwspardyn oedd Hugh Vaughan, asiedydd (joiner), yr hwn a ddaeth i weithio i'r ardal, ac a deimlai yn ddwys oherwydd iselder yr Ysgol Sabbothol, ac amddifadrwydd yr ardal, yn enwedig yr ieuenctyd, o fanteision crefyddol. Yr oedd yn enedigol o Gelynin, a'r pryd hwnw yn gweithio gydag asiedydd o Ddolgellau, ac yn cartrefu yno, ac yn aelod o gapel Salem. oedd ef yn berthynas yn ol y cnawd i'r naill neu y llall, os nad i'r ddau, Sion Vychan, o Lwyngwril. Cawsai achos crefydd, a'r Ysgol Sabbothol hefyd, symbyliad cryf mewn adeg foreuol, yn ei ardal enedigol, yn amser Lewis Morris; a chan ei fod yntau ei hun o deulu zelog, nid rhyfedd iddo deimlo yn awyddus am blanu yr ysgol yn Nghwin Hafodoer. Trwy ei daerni ef cymerodd ysgol Capel Salem ei chwaer fechan yn yr hen dŷ yn Rhiwspardyn dan ei gofal. Dygid holl draul cynhaliad yr ysgol yn y tŷ hwn gan ysgol y dref, ac anfonid brodyr am ysbaid gyda Hugh Vaughan i'w gynorthwyo. Ymysg y ffyddloniaid hyn yr oedd Ellis Williams, Evan Morris, John Jones, William Owen, glazier, Thomas Jones, druggist, John Lewis, Bwlchcoch, Griffith Davies, &c. Yn 1813 priododd H. V., Sarah Vaughan, ac