Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/472

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ellis, a fu wedi hyny yn swyddog gweithgar yn eglwys Hermon. Y mae coffadwriaeth y cyfiawnion yma yn fendi- gedig yn fy ngolwg." Wedi i Rees Williams symud o'r ardal i Ddolgellau, bu Ellis Edwards, Penybryn, yn gweithredu fel ysgrifenydd i'r eglwys, a byddai Hugh Pugh, Caregygath, yn gweithredu gyda'r un gorchwyl, hwythau eu dau hefyd a fuont yn zelog a ffyddlon gyda'r achos yn Rhiwspardyn. Ymysg y merched, gallwn nodi yn arbenig Miss Anne Jones, Plas Gwanas, wedi hyny Mrs. Roberts, Brynadda, Sir Gaer- narfon, a mam Mr. John Bryn Roberts, A.S. Bu hi yn athrawes dra defnyddiol, ac yn noddwraig werthfawr i'r ysgol a'r achos yn gyffredinol am flynyddau lawer, hyd oni symudodd rhagluniaeth hi oddiyma ar ei phriodas. Bu o gynorthwy mawr gyda'r achos yn allanol, yn cynorthwyo yr hen frodyr gyda chadw y cyfrifon, a'r cyffelyb. Y mae llawer o'r cyfrifon yn amser adeiladu y capel i'w gweled eto yn ei llawysgrif hi ei hun. Ar ol ei symudiad i Sir Gaernarfon, daeth yn adnabyddus trwy yr holl gylch Methodistaidd fel un o rai mwyaf rhinweddol a rhagorol y ddaiar; a bu hi a'i phriod yn lloches i grefydd Crist ar hyd eu hoes. Sarah Vanghan, hefyd, yr hon a fu farw Medi 3ydd, 1866, yn 86 mlwydd oed, a barhaodd yn ei diwydrwydd gyda'r Ysgol Sabbothol hyd ei bedd.

Dyddiad prydles y capel ydyw Mai 1832. Ond y mae sicrrwydd oddiwrth lyfrau yr eglwys, ei fod wedi ei adeiladu bedair blynedd yn flaenorol, sef yn 1828. Telid yn flynyddol 22s. o ardreth am y tir. Aeth traul adeiladaeth yn rhywle oddeutu £200. Hugh Vaughan oedd y prif offeryn i ddwyn y gwaith hwn o amgylch, ac nid anturiaeth fechan oedd adeiladu capel y pryd hwnw. Gwaith araf-deg a thrafferthus ydoedd, pan y gwelir oddiwrth y cyfrifon daliadau tebyg i'r rhai hyn-talu am goed o Liverpool i wneuthur pen y capel, talu am eu cario i'r Bermo, o'r Bermo i Lyn Penmaen, ac o Lyn Penmaen at y capel; talu am falk flawydd i wneyd y