Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/494

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanfachreth ac Abergeirw, un o'r troion olaf yn ei oes, iddo ddywedyd wrth y llanc a'i harweiniai gyda'r ceffyl, pan y daeth i olwg Buarthyrë, "Mae y sgubor acw wedi ei chysegru os cysegrwyd un lle erioed. Yr wyf yn cofio Morris Roberts, Brynllin, acw yn gwrando pregeth. Yr oeddwn wedi sylwi arno, ei fod mewn cyfyngder; ei wyneb yn gwelwi gan ei ing a'i ofid, ac o'r diwedd, gwaeddai allan—Arglwydd mawr, gan fod genyt drefn i gadw, cadw finau.'" Ac i brofi eto yn mhellach y nerthoedd a fu gynt yn gweithio yn y lle hwn, dywed y diweddar Barch. Owen Roberts, Llanfachreth, mewn ychydig o ysgrifau a adawodd ar ei ol,—"Cefais hyfrydwch mawr yn nghwmni y Parch. M. Roberts, Remsen, pan ar ei ymweliad a'r cymydogaethau hyn, yn adgofio gweinidogaeth lwyddianus Dafydd Rolant. Yr oeddwn yn myned gydag ef o Lanfachreth i fyny i'r cymoedd—ei hen gartref gynt. Ac yr oedd ar hyd y ffordd, yn brysio at ddyfodiad yr hen leoedd neillduol ganddo ef, i'r golwg. O'r diwedd dyma'r cwm yn ymagor o'n blaen. Dychlamodd yn yr olwg arno, a syrthiodd ei lygaid ar hen Sgubor Buarthyrê. Yr oedd adgofion yr hen amseroedd gynt yn dylifo i'w fynwes gyda'r fath nerth, nes creu awydd ynddo i ddisgyn oddiar ei farch, a phenlinio ger bron Duw y foment hono. Dywedai, 'O! yr hen ysgubor anwyl, mi a welais dy lon'd o Dduw, lawer, lawer gwaith." Ond yr ydym yn tybio na bu eglwys yn cyfarfod o gwbl yn Buarthyrê, oddieithr ar dro, ac oherwydd i'r teulu symud, ni bu arhosiad yr ysgol yn hir yno ychwaith. Oddeutu 1823, daeth Sion Robert i fyw i'r Hendre, ac nid oedd y pryd hyn, ebe ei ferch, Jane Ellis, sydd yn fyw yn awr, yr un ysgol na moddion yn y byd rhwng Llanfachreth a Brynygath. Yr oedd poethder y diwygiad, bellach, wedi oeri, a phob tŷ yn y gymydogaeth wedi ei golli i gadw moddion ynddo. Yr oedd S. R. a'i wraig, ar ol eu dyfodiad i fyny o'r Llan, yn teimlo yn hiraethus am foddion gras, a dywedai ef un diwrnod wrth y goruchwyliwr a ofalai am ei dyddyn, "Y mae arnaf eisiau