Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/504

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y flwyddyn 1788. Adroddir i'r Parch. Dafydd Rolant fod yn pregethu yn y gymydogaeth rai gweithiau, ac iddo ddywedyd na ddeuai drachefn, am nad oedd gan y Methodistiaid yr un "cwch," hyny ydyw, yr un cwch i ddal y gwenyn. Yr hanes cyntaf am yr Ysgol Sul gan y Methodistiaid yn yr ardal ydyw yn 1832, mewn ffermdy a elwir Dirlwyn. Symudwyd hi yn nechreu y flwyddyn ddilynol i ffermdy arall, o'r enw Carleg. Pantypanel ydyw enw y Tyddyn ar dir yr hwn yr adeiladwyd y capel, ac felly, enw y capel ar y cychwyn oedd capel Pantypanel. Cafwyd y tir i adeiladu gan Hugh Jones, perchenog y tyddyn, ar brydles o 99 mlynedd, yn ol ardreth o ddeg swllt y flwyddyn, tra byddai Hugh Jones byw, a haner coron wedi hyny. Aeth y draul i'w adeiladu, ynghyd â'r adeiladau o'i ddeutu, ynghylch 120p. Mr. Williams, Ivy House, oedd yn arolygu y gwaith. Ymhen amser prynwyd y brydles am 20p. Yn y flwyddyn 1853 drachefn, yr oedd 70p. yn aros o'r ddyled, a'r flwyddyn hono, wedi iddynt wneuthur ymdrech egniol eu hunain, dygasant eu ewyn i'r Cyfarfod Misol am help i orphen talu y ddyled. Y penderfyniad y daethpwyd iddo, mewn canlyniad i'w cais, oedd penodi swm penodol yn amrywio o 2p. i 10s., ar bob eglwys trwy gylch y Cyfarfod Misol i'w cynorthwyo. Felly fu gyda'r capel cyntaf. Yn 1868, prynwyd darn o dir drachefn am 10p, tuag at helaethu y capel a chael lle mynwent. Yn 1874, adeiladwyd y capel presenol yn hollol newydd, yr hwn sydd yn gapel da a chyfleus. Ac yn Mehefin, y flwyddyn ganlynol, cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol am y tro cyntaf erioed, yr hwn hefyd oedd yn gyfarfod i agor y capel. Dywedwyd yn y cyfarfod fod y cyfeillion yn haeddu cannoliaeth am eu gweithgarwch, oherwydd fod eu capel, yr hwn a gostiodd 369p. 19s. 5c., yn cael ei agor heb yr un ddimai o ddyled arno. Cynwysa le i eistedd i 146.

Y flwyddyn yr ymadawsant o Carmel i fod yn eglwys yn Silo, nifer yr aelodau eglwysig oedd 18; yr Ysgol Sul, 40.