Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/508

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1883, ac anfynych y gwelwyd eglwys yn fwy ei galar ar ol colli blaenor.

Dewiswyd yr hynafgwr, a'r blaenor ffyddlon, John Jones, Post Office, yr hwn trwy ras Duw sydd yn aros hyd y dydd hwn, i'r swydd, fel y crybwyllwyd, yn fore yn hanes yr eglwys, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Medi 1841, sef y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Mae ei ofal wedi bod yn fawr am yr achos trwy y blynyddoedd, a theilwng ydyw coffhau, mai ei dŷ ef sydd wedi bod yn gartref gweision yr Arglwydd, bron yn gwbl, o'r dechreu cyntaf hyd yn awr. Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. John Jones, Hugh Jones, John Roberts, a William Pugh.

SARON (Friog)

Yn y flwyddyn 1865 y sefydlwyd yr eglwys yma gyntaf. Yr oedd hen achos wedi ei sefydlu yn Llwyngwril a Sion, a gadawyd y lle hwn, sydd oddeutu haner y ffordd rhyngddynt, am hir amser heb foddion yn y byd, ac elai ambell un o'r trigolion i wrando yr efengyl i'r naill neu y llall o'r lleoedd uchod. Ychydig oedd nifer y preswylwyr, mae'n wir, a gallwn gasglu eu bod, nid yn unig yn ddiymgeledd, ond yn bur anghrefyddol. Yn Nghofiant Richard Jones, Llwyngwril, gwr a ddechreuodd bregethu yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, ceir sylw neu ddau yn profi hyny. Dywedir am Richard Jones, yr hwn ni allai siarad yn groew, y "byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn (sef ei bregethau newyddion) mewn pentref tlawd o'r enw y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, i hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych." Eto. "Pan oedd unwaith yn pregethu yn y Friog, daeth rhywun at y drws i roddi arwydd fod prog wedi dyfod i'r lan (mae y lle ar lan y mor); a dyna y gynulleidfa yn dechreu myned allan o un i un, gan adael y pregethwr i siarad wrth yr eisteddleoedd gweigion. Wrth weled y fath ymddygiad annheilwng, cynhyrfodd yn anghyffredin, a dywedodd, 'Mi ddydw