Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/515

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hwy eu pedwar, a Mri. R. Williams, J. Williams, a R. Mills, ynghyd â'r Parch. R. Roberts ydyw swyddogion presenol yr eglwys. Dyma fel y cyrhaedda crynhodeb o hanes yr achos yn nghapel Bethel o'r dechreuad hyd yn hyn. Mae yr olwg sydd arno yn awr (1888) ymhell o fod yn ddigalon. Nis gellir disgwyl i'r gynulleidfa gynyddu llawer ar hyn o bryd, ond mae rhif yr eglwys eisoes o fewn dau yn ddwy waith ei rhif pan ei sefydlwyd hi gyntaf, ac yn ychwanegol at ei holl dreuliau eraill, yr oedd dyled y capel ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf wedi ei dynu i lawr i £570. Y mae cyfrifon yr eglwys i'w gweled oll yn yr Ystadegau Blynyddol. Canmola y brodyr fod gwedd lewyrchus ar gyfarfod gweddi y bobl ieuainc boreu Sabbath, y cyfarfodydd darllen, a'r Ysgol Sabbothol, ac fel ffrwyth, daw cyfran dda o wobrwyon y Gymanfa Ysgolion a'r Cyfarfod Misol i'w rhan, ac, er hyny, cydnabyddant, pa astudrwydd, pa lafur, pa ffyddlondeb bynag a fu gyda'r achos, fod y llwyddiant i'w briodoli yn gwbl i fendith yr Arglwydd a gras ei Ysbryd Ef.

Evan Jones, Cader Villa.—Ar brydnhawn hwyr ei oes y symudodd ef i Ddolgellau, ac y dewiswyd ef yn swyddog yr eglwys hon. Gwasanaethodd y swydd yn Llanelltyd yn flaenorol am dros ugain mlynedd. Syniad ei frodyr am dano oedd, ei fod yn ddyn da, yn Gristion cywir, yn athraw llwyddianus, yn ddoeth mewn cyngor, yn ddiwyd mewn ffyddlondeb yn ngwinllan ei Arglwydd. Bu farw mewn tangnefedd yn y

CAPEL SAESNEG, DOLGELLAU.

Yn y flwyddyn 1877 yr adeiladwyd y capel hwn, ac y ffurfiwyd achos rheolaidd ynddo. Ond dechreuwyd pregethu yn yr iaith Saesneg yma y Sabbath cyntaf yn Gorphenaf, 1869. Cynhelid y moddion y ddwy flynedd gyntaf yn nghapel Salem, rhwng y moddion Cymraeg. Yn 1871, cafwyd y Public Rooms am £7 yn y flwyddyn, ac yma y buwyd hyd 1877