Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ yn y pen nesaf i'r afon o res o dai oeddynt i gyd yn gydiol a'u gilydd. Troes y gwynt yn y cyfamser i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion oddiwrth y tai eraill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y boreu i'r lle y buasai am lawer o ddyddiau cyn hyny, a lle yr arhosodd lawer o ddyddiau ar ol hyny hefyd.

Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gwr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd yn ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau."

Digwyddodd hyn, yn ol pob tebyg, cyn y flwyddyn 1780.[1] Yr ydym yn gweled oddiwrth yr hanes fod ysbryd erlidgar iawn yn meddianu y preswylwyr, mewn gwlad a thref. Cadarnha hyn, hefyd, y dybiaeth fod erledigaethau y rhan yma o'r wlad yn un achos i gadw yr efengylwyr draw oddiwrthi. Er ei bod yn lled sicr yr elai y pererinion o Leyn ac Eifionydd y ffordd hon i Langeitho, nid yw yn debyg y byddai eu nifer gyda'u gilydd mor fawr a phump a deugain. Awgrymir yn y dyfyniad uchod mai nifer mawr y fintai a barodd i'r erlidwyr gyfodi mor ffyrnig yn eu herbyn. Gallwn gasglu, pan y byddai nifer y pererinion o Leyn yn lliosog, mai mewn llong neu gychod yr elent. Modd bynag, nid oedd na dieithriaid na dyfodiaid wedi bod hyd yma yn abl i ddychrynu nac efengyleiddio dim ar drigolion Mesopotamia. Ac nid oes dim sicrwydd fod na Howell Harris na Daniel Rowlands wedi sangu eu traed o gwbl o fewn y cyffiniau.

  1. Yn Ngoleuad Cymru am Awst, 1819, ceir crybwylliad gan ysgrifenydd arall am y daith uchod, yr hwn a ddywed mai yn y flwyddyn 1774 y cymerodd y digwyddiad le, ac ychwanega, "Ar ol hyn, agorodd pawb eu drws i ni, a chawsom lonydd i fyned byth wed'yn."