Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/522

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pharhau, ac yn erbyn ei diddymiad, oblegid y rhesymau canlynol:—(1.) "Fod llawer o blant ac eraill mewn oedran yn yr ardal eto heb eu dysgu, ac fe fyddai rhoddi yr ysgol i fyny yn bresenol fel rhoi gwaith heibio ar haner ei wneyd. (2.) Fod hen bobl heb fedru darllen, gan nad oedd Ysgol Sabbothol yn amser eu hieuenctid, ac os ninau a adawn i'r ysgol fynd i lawr, bydd plant yr oes hon yn yr un sefyllfa anfanteisiol i gael gwybodaeth o'r Gwirionedd. (3.) Nad yw y Beibl yn ateb un diben heb ei ddarllen, ac felly fod eisiau ei ddefnyddio. (4.) Byddai ein gwlad yn ddidrefn, tywyll, anwybodus, a thlawd yr olwg arni, pe na byddai neb yn medru darllen ynddi. (5.) Fod bron holl ardaloedd Cymru yn yr adeg hon wedi eu gwisgo yn hardd â gwybodaeth trwy yr Ysgol Sabbothol, a byddem ni fel ardal dan ein gwarth, yn anad neb yn ein hoes, o ddiffyg defnyddio y moddion. (6.) Elai holl lafur Cymdeithasau y Beiblau i argraffu y Beibl yn ofer o'n rhan ni, oddieithr i ni ddefnyddio moddion i ddysgu ei ddarllen." Rhoddir yn yr oll ddeuddeg o resymau cyffelyb. Yna, yn y fan a'r lle, "ystyriwyd a oedd dim yn bosibl cael un tro ar yr ysgol er ei diwygio."

Gellir yn briodol ystyried yr amser hyd y Diwygiad yn 1817-18 yn gyfnod y dechreuad gyda gwaith yr ysgol. Derbyniodd adgyfnerthiad anghyffredin o fawr yn Nolgellau a'r ardaloedd bychain cylchynol trwy yr ymweliad gwerthfawr hwnw. hyny allan, dechreuodd cyfnod gweithio ymhob cangen o honi. Ceir, wrth ddilyn ei hanes i lawr i'r adeg bresenol, na bu cyfeillion yr Ysgol Sul na segur na diffrwyth yn y dosbarth hwn. Os bu gwrthwynebiad iddi yn nechreuad y ganrif, oddiwrth swyddogion crefydd, daethant hwy allan o'i phlaid wedi hyny yma yn llawn mor gryfed ag unrhyw ran o'r sir. Rhoddodd y dynion blaenaf gyda chrefydd eu talent a'u gwasanaeth i hyrwyddo y gwaith ymlaen trwy yr holl flynyddau a aethant heibio. Nis gellir eu nodi bob yn un ac un. Ond o blith y lliaws ffyddloniaid sydd wedi myned i'r orphwysfa, saif