Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/532

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am farwolaeth yr hen dad hybarch, Lewis William, Llanfachreth. Mae yn debyg nad oes yma neb yn cofio y Cyfarfodydd Ysgolion heb ei fod ef yn dwyn cysylltiad agos â hwynt. Ni bu efe yn fwy ffyddlon gyda dim na chyda'r Ysgol Sabbothol. Efe sylfaenodd amryw o'r ysgolion. Efe oedd tad Ysgol Sabbothol Dolgellau. Dilynodd y Cyfarfodydd Ysgolion hyd y gallai. Os ydym yn cofio yn iawn, yn Abergeirw y bu ddiweddaf, pan yn wael iawn ei iechyd, ac heb weled nemawr, ond trwy help brawd o Lanfachreth, ymlusgodd yno, er ei bod yn dywydd gwlyb dros ben, fel yr oedd amryw o'r cenhadon yn gorfod troi yn eu hol. Ond dywedai Lewis William na fynai ef er dim droi yn ol. Un felly ydoedd, ymlaen, ymlaen oedd ei arwyddair gyda phob rhan o waith yr Arglwydd. Cafodd ysgol Dolgellau y fraint o wneyd tysteb iddo yn ei fywyd. Pan oedd yr ysgol yn cyraedd ei 50 oed, blwyddyn ei jiwbili, gwahoddwyd yr hen frawd i'r dref, a chyfarfod a hir gofir oedd y noson hono i bawb oedd yno. Cyflwynwyd iddo Feibl hardd a gwerthfawr fel cydnabyddiaeth am y llafur a'r ymröad calon a gymerodd i sefydlu Ysgol Sabbothol yn y dref hon, yn ngwyneb llawer iawn o wrthwynebiadau. Derbyniodd yr hen frawd anwyl yr anrheg, ac yr oedd ar y pryd yn wylo cariad pur.'"

Y GYMANFA YSGOLION.

Mae y Gymanfa Flynyddol wedi dyfod yn nodwedd o arbenigrwydd mawr yn hanes yr Ysgol Sul yn y dosbarth hwn. Nid oes amser maith er pan ei sefydlwyd. Nid yw y gyfres bresenol o Gymanfaoedd, mewn gwirionedd, yn dyddio yn bellach yn ol na'r flwyddyn 1871. Yn flaenorol, am ryw nifer o flynyddoedd, cynhelid ambell gyfarfod blynyddol, weithiau i ganu, ac weithiau i gystadlu; ac yn flaenorol i hyny, neillduid un o'r Cyfarfodydd Ysgolion rheolaidd ar y Sabbath i fod yn gyfarfod blynyddol, i drefnu gwaith yr ysgolion am y flwyddyn. Ond yn 1871, sefydlwyd Cymanfa,