Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed gan rywun yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwyr ac a'u lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach, ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono. Wedi hyn bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael. Yn gyntaf yn Llain-y-groes, a thrachefn dros ysbaid dwy flynedd yn Ysgubor-goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarph yn llesteirio i'r efengyl gael arhosiad hir yn un lle, eto yr oedd yn enill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y ty hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i wr arall am ychydig o ardreth, ar yr amod fod pregethu i fod ynddo."

Y bregeth ar fin y ffordd fawr oedd y bregeth gyntaf a bregethwyd gan y Methodistiaid yn Nghorris. Mae yr amser y sefydlwyd yr eglwys hon ar gael, o leiaf, dywedir yn bendant ei bod wedi ei sefydlu yn y flwyddyn 1790, ac y mae enwau yr aelodau cyntaf hefyd ar gael, yr hyn sydd o werth mawr. Y rheswm dros fod cymaint a hyn o'r hanes yn sicr ydyw ei fod wedi ei gael o enau un o sefydlwyr cyntaf yr eglwys, sef Dafydd Humphrey, ac wedi ei groniclo tra yr ydoedd ef yn fyw.

Nis gellir bod mor sicr am amseriad sefydliad yr eglwysi yn y rhan agosaf i'r môr o'r Dosbarth. Yn unig gellir dweyd mai yr adeg y sefydlwyd hwy, o'r bron i gyd, ydoedd oddeutu y flwyddyn 1790. Er hyny, ceir awgrymiadau yn tueddu i ddangos fod un neu ddwy o honynt wedi eu sefydlu mor foreu a'r flwyddyn 1787. Yr ardaloedd y gwawriodd goleuni arnynt gyntaf, gyda golwg ar amledd breintiau crefydd, oeddynt Llwyngwril a'r Bwlch. Digon o reswm am hyn ydyw fod y