Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddychryn, ac ofnau, ac enbydrwydd, hyd yn nod am eu heinioes. Ac nid rhyfedd ei bod hi felly, gan fod y mwyaf cawraidd o honynt oll wedi ffoi. Nid oedd yr un capel hyd y flwyddyn hon wedi ei adeiladu trwy yr holl wlad, o afon Abermaw i afon Dyfi. Yr oedd yma naw neu ddeg o eglwysi wedi eu ffurfio er's pedair neu bum' mlynedd, a rhai o honynt, feallai, yn gynt. Mewn tai anedd y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig, ac nid oedd yr un o'r rhai hyny eto wedi ei recordio. Tra yr oedd llid y boneddwr trahaus wedi enyn i'r fath raddau, ac yn tori allan ar dde ac ar aswy, yn ystod yr haf bythgofiadwy hwn, yr oedd wedi myned yn ddyryswch hollol ar y crefyddwyr, druain. Yr oedd tafodau y pregethwyr wedi eu distewi, a hwythau wedi cymeryd y traed i ffoi, a rhai o'r bobl a'u derbyniasent i'w tai wedi ffoi gyda hwy; ofnai eraill agor drws eu tai, rhag iddynt gael eu drygu yn eu hamgylchiadau trwy ddirwyon trymion; yr oedd arswyd a dychryn wedi meddianu yr holl wlad, o Dowyn i Gader Idris, ac o Arthog i Bennal, ac am dymor byr, yr oedd yr achos crefyddol wedi sefyll yn llwyr rhwng y Ddwy Afon. Dywedir hefyd i gapel Dolgellau gael ei gau i fyny am un Sabbath yr adeg yma, gan fel yr oedd arswyd wedi meddianu y pregethwyr. Erbyn hyn, yr oedd sôn am yr erledigaeth wedi cyraedd i'r cyrion y tuallan i'r ardaloedd, ac enynid cydymdeimlad cyffredinol â'r saint oedd yn cael eu gorthrymu mor greulon. Yn y Bala, yn neillduol, yr oedd y pryder a'r gofal a amlygid dros y rhai a erlidid yn fawr dros ben. Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn ŵr ieuanc newydd ddechreu pregethu. Dengys y dyfyniad canlynol o'i Gofiant, yr hwn a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, beth oedd sefyllfa pethau yn yr ardaloedd hyn, a pha beth oedd y teimlad y tuallan i'r ardaloedd:—

"Tua'r amser hwn, yn y flwyddyn 1794, neu 1795, darfu i Mr. Corbett, o Ynysmaengwyn, ymroi i erlid y Methodistiaid; gorfododd i'r brawd William Hugh, Llanmihangel, dalu 20p. o ddirwy am bregethu heb licence; dirwyodd eraill am roddi eu