Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oed, ac yn rhinwedd y gwasanaeth hwnw y gadewid iddi hi fod yn y society fel eithriad. Tebygol iawn hefyd fod yr eithriad hwn yn foddion i fwyhau ei hargraffiadau crefyddol pan yn blentyn. Pan oedd Mary Jones tua 10 oed, yr oedd John Ellis, Abermaw, yn cadw ysgol ddyddiol yn Abergynolwyn o dan Mr Charles, o'r Bala. Yr oedd John Ellis yn ŵr da a chrefyddol, ac fe sefydlodd Ysgol Sabbothol yno mewn cysylltiad a'r un ddyddiol. Dywedir mai Mary Jones oedd un o'r rhai cyntaf, a ffyddlonaf, ddilyn yr ysgol ddyddiol a Sabbothol, er fod ganddi tua dwy filldir o ffordd o'i chartref i Abergynolwyn. Hynodai ei hun yn neillduol yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chôf ranau helaeth o'r Beibl. Yn y flwyddyn 1800, yr oedd Lewis William, Llanfachreth, yn cadw ysgol yn Abergynolwyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun wrth Mr. R. O. Rees, Dolgellau, a Mary Jones yn yr ysgol gydag ef; a'r flwyddyn hono, yn 16eg oed, cerddodd yr holl ffordd i'r Bala at Mr. Charles i ymofyn am Feibl. Mae ei hanes hi ynghyd â'r canlyniadau a ddaeth o'r amgylchiad hwn yn ddigon hysbys. Ar ol hyn bu un William Owen yn cadw ysgol ddyddiol yn y Cwrt, ac yn ffyddlon hefyd gyda'r Ysgol Sabbothol, ychydig cyn adeiladu y capel cyntaf yn y lle. Aeth oddiyma i Aberystwyth.

Yn Tynybryn, o fewn chwarter milldir i le genedigol Mary Jones, y ganwyd Dr. William Owen Pughe, y Geiriadurwr enwog, yn y flwyddyn 1759. Ond yr oedd ef a'i rieni wedi symud o'r ardal i fyw cyn dechreuad Methodistiaeth yn mhlwyf Llanfihangel.

Y to cyntaf o grefyddwyr a fu yn offerynau i gychwyn yr achos yma a'i gario ymlaen am 25 mlynedd oeddynt,—William Pugh, Llechwedd; John Lewis, Llanfihangel; John Howell, Nantcawbach; Howell Thomas, Pennant; John Jones, Bodilan-fach. A rhaid enwi teulu Tynddol, Jacob a Mari Siôn, tad a mam y Gymraes fechan heb yr un Beibl. Yr ydys wedi gweled yn y benod ar Erledigaeth 1795, fod achos crefydd wedi bod