Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y ffwrnes yma y flwyddyn hono. Dioddefodd yr eglwys lawn cymaint oddiwrth yr erledigaeth â'r un eglwys yn y dosbarth. Daliwyd y penaf o'r crefyddwyr, W. Hugh, yn ei dŷ ei hun gan y milwyr, a dirwywyd ef i 20p. Parodd hyn ofn a dychryn i ganlynwyr yr Iesu, a buont am beth amser mewn digalondid mawr. Er i'r pregethwr, a'r tŷ y pregethid ynddo, gael eu rhoddi dan amddiffyniad y gyfraith, parhaodd y rhai gweiniaid i fod dan lywodraeth ofn dros amryw flynyddau. Ac eto gwnaeth yr erledigaeth y rhai zelog yn fwy zelog. Howell Thomas, Pennant, a John Howell, Nantcawbach, oeddynt flaenoriaid cyntaf yr eglwys. John Howell oedd y dyn cryf a barodd i'r erlidwyr ffoi pan yr oeddynt ar wneyd ymosodiad ar y pregethwr yn un o'r odfeuon cyntaf yn Abergynolwyn, trwy ddyfod ymlaen a dywedyd y geiriau canlynol,-"Dewiswch i chwi yr un a fynoch, ai bod yn llonydd a distaw, ynte troi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi." Ar ol y tro hwn daeth i broffesu crefydd. Gwelir ei enw ymhlith trustees amryw o gapeli yr ardaloedd, a adeiladwyd yn nechreu y ganrif hon. Yr oedd yn golofn gref o dan yr achos hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le tua'r flwyddyn 1820. Yr ail dô o ffyddloniaid gyda'r achos oeddynt,—Richard Jones, Llanfihangel; Richard Edwards, Nantcawbach; Richard Williams, Ceunantcoel; William Jones, Gelliddraenen; Owen Williams, Mriafal-fach; Lewis Pugh, Bryneglwys. Dyddiad y weithred, am y capel cyntaf, ydyw Rhagfyr 27ain, 1806, a'r flwyddyn hono neu y flwyddyn gynt yr adeiladwyd ef; John Thomas oedd perchen tai y Cwrt, a chanddo ef y cafwyd lle i adeiladu y capel. Prydles, 99 mlynedd; ardreth, swllt y flwyddyn. Yr oedd yn gapel hollol ddiaddurn; ei lawr yn bridd, ac heb ddim eisteddleoedd ynddo. Felly y parhaodd, mae'n debyg, am 25 mlynedd. Yn 1850, dywedir, mewn adroddiad o hanes y capelau, fod capel y Cwrt mewn cyflwr drwg iawn. Yn 1853 adgyweiriwyd ef. Mr. John Lloyd, Llanegryn, oedd yn arolygu yr adgyweiriad, trwy benodiad y