Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn dyblu a threblu drachefn a thrachefn yr hen benill hwnw,—

"Am hyny dechreuwn mae 'n ddigon o bryd
I ganu caniadau i Brynwr y byd."

"Haner can mlynedd yn ol," ebe un o'r hen frodorion, yr oedd llawer iawn o hen wragedd duwiol iawn yn y Cwrt. Byddent yn canu y penill drosodd a throsodd drachefn, yn ymsymud fel y goedwig o flaen y gwynt, yn myned yn ol a blaen gyda'u gilydd, yn hollol reolaidd o ran mosiwns, ond pawb a'i floedd a'i chwch oedd hi gyda'r canu." Felly y byddent, nid ar amser diwygiad, ond yn gyffredin a phob amser. Yr oeddynt yn engraifft deg o hen grefyddwyr cyntaf y Methodistiaid. Rhai o'r hen wragedd hyn oeddynt,—Margaret Roberts, gwraig John Thomas: Mari Shôn, Ty'nddol; Mari Pugh; Mari Humphreys, gwraig Richard Jones, a Margaret Pugh, gwraig W. Pugh, Llechwedd; Catherine Lewis, mam y Parch. Lewis Jones, y Bala; Catherine Evans, mam y Parch. Robert Roberts, Dolanog; Sarah Dafydd, ac Ann Dafydd, ei chwaer, o'r Nant, ac amryw eraill. Bu yma hefyd yn yr amseroedd cyntaf ofal mawr gyda lletya pregethwyr. Eu llety cyntaf oedd gyda John Thomas, y Cwrt, y gŵr a roddodd y tir i adeiladu y capel cyntaf arno. Gwnaeth ef yn ei ewyllys fod i'w wraig, Margaret Roberts, eu cadw ar ol ei ddydd ef. Wedi i Margaret Roberts fyned yn hen, ymgymerodd Mary Pugh â chadw y pregethwyr. Rhoddodd Mary Pugh yn ei hewyllys fod i'w nith, Margaret Humphreys, eu cadw ar ol ei dydd hithau. Yr oedd gofal hen bererinion y Cwrt yn dra nodedig am lety i weision yr Arglwydd. Bu Samuel Jones, yr hen flaenor nefolaidd ei ysbryd o'r Gwynfryn, yn aros am ychydig yn ardal Llanfihangel pan oedd capel Penmeini newydd gael ei adeiladu. Richard Jones, Ceunant, a John Williams, Living, oeddynt y ddau flaenor oedd ef yn gofio yno. Elai i'r seiat i'r Cwrt. "Ychydig iawn," meddai, "oedd yn y seiat, a'r rhai hyny yn bobl dlodion iawn, ac