Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/109

Gwirwyd y dudalen hon

bwy na pha fodd y dewiswyd hwy; ac ymddengys mai y prif gymhwysder ynddynt i'r swydd ydoedd gonestrwydd a duwioldeb, oblegid dywedir am y cyntaf o'r ddau nas gallai ddarllen gair ar lyfr. Owen Rhobert oedd y blaenor cyntaf yn Mhlwyf Ffestiniog. Symudodd o Bwlchiocyn i fyw i Neuadd-ddu yn y flwyddyn 1809. Yr oedd hyn ddeng mlynedd cyn bod un eglwys wedi ei sefydlu yn y Blaenau. Ganddo ef yr oedd y prif lywodraeth yn yr hen gapel, oblegid ceir hanes am dano yn talu i'r pregethwyr, a'r tâl, fel yr hysbyswyd gan ddau weinidog, ydoedd chwe' cheiniog. Efe hefyd fyddai yn cyhoeddi, a'i ddull yn cyhoeddi moddion yn y Blaenau oedd,— "Cyfarfod gweddi i fod yn ein tŷ ni rhwng t'wllu a th'wllu." Bu farw yn y flwyddyn 1818. John Hughes a fu yn dysgu y plant yn yr Ysgol Sul gyda ffyddlondeb am ddeugain mlynedd, ac a fu farw, wedi bod yn fendith i ganoedd, yn 1834, yn 96 mlwydd oed.

Yr ail gyfnod ydyw yn y Capel Gwyn, o 1814 i 1839. Yr oedd yr Hen Gapel oddeutu milldir oddiwrth y pentref i gyfeiriad Penmachno. Yn awr, gan fod y boblogaeth yn cynyddu, aeth yr hen adeilad yn rhy fach, ac adeiladwyd un arall yn ei le ar dir Plasmeini, yn nghongl cae a elwid Caegwyn; oddiwrth hyn yr enw cyntaf ar y capel oedd Pencaegwyn, ac ymhen amser daeth i gael ei alw yn Gapel Gwyn. O ran maint ac addurn nid oedd fawr o ragoriaeth yn hwn ar yr hen. Yr oedd yn ddeg llath o hyd, ac wyth lath o led. Fel hyn y dywedir yn y Traethodydd am 1868, tudalen 45,—"Gofynai Mr. Charles wrth fesur y tir am hyd coed yn ychwaneg, oblegid yr oedd ei ffydd ef yn lletach na'r ychydig latheni hyn. Ond yr oedd Edward Robert, y pregethwr, yn chwyrnu ac yn chwythu bygythion rhag y fath beth. 'A oes arnoch ddim ofn i'r capel mawr yna fyn'd yn ysgubor?' meddai, nid oes arnoch ddim mwy o'i eisiau na gwaew yn eich talcen.' Costiodd 300p." Hanes arall a ddywed mai John Evans, y