Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/116

Gwirwyd y dudalen hon

y bu yn blaenori ynddi. Yr ydoedd yn ddihareb am ei benderfyniad, a'i ffyddlondeb, a'i gywirdeb gyda phob rhan o waith yr Arglwydd." Gwr o farn, a phwysau yn ei gymeriad. Bu farw Medi 2, 1859, a theimlid colled ar ei ol. David Evans.-Gwasanaethodd ei swydd gyda ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin am tua 40 mlynedd. Yr oedd yn hynod ryddfrydig ei syniadau, a byddai ar flaen pob diwygiad er llesoli yr achos mawr. Yr oedd yn hynod hefyd am ei hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau; ei hyfrydwch oedd myfyrio ar athrawiaethau mawr crefydd. Bu yn cyhoeddi y moddion am 40 mlynedd, a chyhoeddwr hyglyw heb ei ail ydoedd. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Misol. Teilynga gael ei restru fel un o flaenoriaid ffyddlonaf plwyf Ffestiniog er dechreuad Methodistiaeth. Bu yntau farw Medi 21, 1879. Dewiswyd Mr. Robert Griffith ar ei ddyfodiad yma o Bethesda. Evan Thomas, Robert Davies, Hafodfawr; Hugh Jones, Post Office; Ellis Lloyd, a W. Jones (Ffestinfab), fuont yn flaenoriaid yina, ond a symudasant i leoedd eraill. Y blaenoriaid yn awr ydynt,- Mri. Robert Griffith, W. Jones, David Owen, Richard Jones, W. Davies.

Yn y flwyddyn 1880, adeiladwyd capel Engedi yn nghwr arall y pentref, a symudodd nifer fawr i ymffurfio yn eglwys yno. Cyn yr ymadawiad hwnw, rhifai cynulleidfa Peniel yn wrandawyr, 870; cymunwyr, 443; Ysgol Sul, 658. Gwasanaethodd y Parchn. Robert Parry ac Humphrey Williams yr eglwys am flynyddoedd lawer, er nad oeddynt wedi eu galw yn ffurfiol. Yn awr y mae Mr. D. D. Williams, gynt o Croesor, wedi ei alw yn weinidog yr eglwys. Ar ddiwedd 1889, rhif y gwrandawyr, 400; cymunwyr 248; Ysgol Sul, 342.

Y PARCH. HUMPHREY WILLIAMS.

Ganwyd ef yn Tomen y Mur, Medi 10fed, 1810. Bugeilio defaid oedd ei waith boreuol; daeth wedi hyny i weithio i