Jones, "bob tro y deuaf yma, yn rhoddi i mi yr hen chwech." Cynhelid pob moddion yn y Neuadd—ddu hyd Medi 17eg, 1826, pryd yr agorwyd capel Bethesda. Un o'r teulu a adroddai, amser yn ol, y byddai pethau digrifol yn cymeryd lle yno weithiau. Cedwid y cyfarfod eglwysig wythnosol ar noson waith, a digwyddai tipyn o ddyryswch ambell dro. Yr oedd yno un yn lletya dros yr wythnos, yr hwn nad oedd yn perthyn i'r gyfeillach; ac yn hytrach na gadael iddo fyned allan i ganol yr oerni, gadewid iddo fyned i'r gwely, ar yr amod iddo gadw ei ben o dan y dillad nes y byddai y cyfarfod eglwysig drosodd.
PENOD Y TIR A'R ADEILADAU.
Adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Tanymanod, yn y fan lle mae hen gapel presenol Bethesda, ar brydles, a thelid ardreth o 2p. yn y flwyddyn. Y draul i'w adeiladu oedd 274p. 10s. 4c. Dywedir i ddau bregethwr dieithr o'r Deheudir ddyfod heibio tra yr oedd y bobl wrthi yn adeiladu, y rhai a ddywedent,— "Ha wyr bach, shwd yr ych chi'n buildo capel yn y fath le a hyn? Beth ych chi'n ddisgwyl gael i'w lanw—defaid a geifr?" Agorwyd ef Medi 17eg, 1826. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Roberts, Llangwm; John Peters, Bala; Richard Jones (Wern neu Trawsfynydd). Rhoddodd John Roberts, Llangwm, yr enw Bethesda iddo yn gyhoeddus ddiwrnod ei agor. Yr oedd cantorion wedi dyfod i fyny o'r Capel Gwyn, i ganu ar yr amgylchiad. Rhif yr eglwys ar y pryd, fel y tybir, oedd o 40 i 50. Ymhen saith mlynedd, sef yn 1833, bu raid rhoddi gallery ar y ddau dalcen, ar y draul o 57p. 13s. 11c. Adeiladwyd tŷ yn llety i'r pregethwyr, ac ystabl i'r ceffylau, yn 1837, am 150p. William a Catherine Owen ddaethant i fyw iddo gyntaf, yn 1838. Coffa da am danynt. Y cytundeb cyntaf i lawr yn llyfr yr eglwys a wnaed â hwy oedd,—" William Owen i gael at y tân, 2p.; at drin y ceffylau, 10s.; at lanhau