Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/137

Gwirwyd y dudalen hon

chanddo lais dwys, peraidd, toddedig, fel yr oedd pob peth a ddywedai yn effeithiol. Medrai fod yn ddifrifol a siriol ar unwaith. Cofiwyf yn dda am nifer o hen frodyr eraill oedd yn hen gapel Bethesda. William Walter oedd yn dechreu canu, a byddai yn sefyll ar risiau y pulpud bob amser; a'r hen frawd Samuel Jones, Tanygraig, yn agos iddo, a'i lygaid yn llawn dagrau, ac yn gwaeddi 'O diolch' wrth wrando y weinidogaeth ac wrth ganu."[1]

Y Parch. Thomas Williams oedd frodor o Sir Fon. Ymsefydlodd yn yr ardal hon trwy briodi merch i Griffith Ellis, Pantyryn. Dewiswyd ef yn flaenor yn Bethesda, ac yn fuan dechreuodd bregethu. Y tro cyntaf y mae ei enw i lawr yn pregethu yma ydyw Mawrth 3ydd, 1837. Yr oedd yn bregethwr gwlithog a chymeradwy iawn, ac yn meddu ar ddawn poblogaidd. Gan fod ei deulu yn dyfod yn lliosog, ymfudodd i America yn 1845, a rhoddwyd iddo gan yr eglwys wrth gychwyn 5p. 12s. 6c., ynghyd a llythyr cymeradwyaeth at y brodyr yr ochr draw i'r môr. Ymsefydlodd yn Swydd Oneida, talaeth New York. Ordeiniwyd ef ymhen y flwyddyn wedi iddo gyraedd i'r America, a bu yn pregethu yn yr Unol Dalaethau gyda chymeradwyaeth mawr, hyd y flwyddyn 1872, pan yr hunodd yn llawn o dangnefedd yr efengyl, gan dystiolaethu wrth ei gyfeillion nad oedd arno ddim mwy o ofn marw na phe buasai yn symud o'r naill ystafell i'r llall. Ymfudodd un arall o feibion goreu eglwys Bethesda i America, yn y flwyddyn 1850, Mr. Owen Owens, yr hwn oedd fab i Robert Owen, Tai Newyddion, Diphwys. Magwyd ef yn "ngeiriau y ffydd," ond ciliodd o'r eglwys yn nhymor ieuenctid. Er hyny, yr oedd yn wr ieuanc dichlynaidd, meddylgar, a llafurus am wybodaeth. Yn Chwefror, 1846, ar noswaith waith, bu John Hughes, Llangollen, yn pregethu yn yr ardal yn hynod o effeithiol. Yr wythnosau canlynol ychwanegwyd llawer at

  1. Adgofion y Parch. Owen R.. Morris, Minesota, America.