Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/142

Gwirwyd y dudalen hon

oddiwrth y pulpud, gan adrodd yr adnod laweroedd a llaweroedd o weithiau, gyda'i freichiau yn ymrwyfo yn hamddenol, yn debyg i ddyn yn nofio, a'r olwg arno yn nefolaidd dros ben. Golygfa oedd hon i'w chofio. Dywedai y Parch. E. Morgan, wrth wneuthur coffhad am Pierce Jones, ar ol ei farw, na byddai byth yn darllen yr adnod heb gofio am dano yn ei hadrodd yn y gorfoledd mawr hwnw yn Nolgellau. Yr oedd y cyfryw sel a bywyd ynddo gyda chrefydd hyd y diwedd. Bu farw Gorphenaf 4ydd, 1863, yn 46 mlwydd oed.

RICHARD OWEN, NEUADD-DDU.

Dewiswyd ef yn swyddog yn 1864, newydd i'r ymadawiad i'r Tabernacl gymeryd lle, a chafodd fyw i weithio am dros bymtheng mlynedd. Un o'i gyd-flaenoriaid a ddywedai am dano, "Dyn gwylaidd, am ymguddio hyd y gallai ydoedd. Gwnaeth ddefnydd da o'i amser, i ddarllen a diwyllio ei feddwl, ac yr oedd wedi cyraedd mesur da o wybodaeth. Meddai farn glir ar y pethau ddeuai dan sylw; yr oedd yn gryf iawn pan y credai o ddifrif mewn unrhyw beth." Un arall a ddywed, "Bu yn ysgrifenydd y gymdeithas arianol yn eglwys Bethesda am un mlynedd ar bymtheg, a llanwodd y swydd o flaenor am bymtheng mlynedd yn yr un eglwys. Ië, llanwodd y swydd, nid cael ei ddewis yn unig i'r swydd, a'r swydd yn addurn iddo, ond llanwodd a chyflawnodd y gwaith a ymddiriedwyd iddo. Nid oedd yn siaradus, ond pan y siaradai, fe wnai hyny i bwrpas." "Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf pur ei gymeriad, fel mai ychydig oedd yn meddu ar fwy o ddylanwad nag ef. Hanai o hen gyff Methodistaidd. Ei daid oedd un o flaenoriaid hynaf plwyf Ffestiniog. A thra bu Richard Owen byw, yr oedd hen grefydd y teulu yn disgleirio mor loew ynddo ef ag y bu erioed." Bu farw Hydref 27ain, 1879, yn 41 mlwydd oed.