Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/150

Gwirwyd y dudalen hon

heblaw yr ysgol, gyfarfod gweddi unwaith neu ddwy y Sabbath, pregeth ambell nos Sadwrn, seiat y plant nos Wener, cyfarfod athrawon ganol yr wythnos ar ol pob Cyfarfod Ysgolion.

Yn lled fuan yr oedd yr ysgoldy 6 wrth 7 wedi myned yn rhy gyfyng, a dechreuwyd son am gael capel, a'r blaenaf yn yr ysgogiad hwn eto oedd W. Rowland. Yr oedd fel tân gwyllt am gael ei gynllun ymlaen, ond yr oedd John Pierce yn fwy pryderus a hwyrfrydig, canys yr oedd erbyn hyn wedi ei neillduo yn flaenor yn Bethesda. Ond capel oedd raid gael. A'r canlyniad fu, i frodyr ddyfod o Bethesda i edrych beth oedd y teimlad gyda golwg ar hyn, ac wedi cael fod y teimlad yn gryf, anfonwyd y mater i'r Cyfarfod Misol, lle cafwyd cydsyniad rhwydd. Wedi dyfod adref o'r Cyfarfod Misol, aeth John Pierce a W. Rowland at Mr. Holland eto i ofyn am le i adeiladu capel, ac yntau yn rhwydd a ganiataodd iddynt eu dewis le ar ei dir, gan ychwanegu na byddai yr ardreth ond deg swllt yn y flwyddyn. Darfu i'r chwarelwyr wneyd digon o geryg i doi y capel hwn am ddim, trwy gael caniatad i gasglu y defnyddiau yn y chwarel.

Felly yn mis Chwefror, 1838, gorphenwyd ef, a symudodd y frawdoliaeth yn gwbl o Bethesda, a ffurfiwyd cangen eglwys yn Tanygrisiau ar ei phen ei hun. Rhifedi yr ysgol yn ei chychwyniad yn y capel newydd oedd 136, a nifer yr aelodau eglwysig yn 36. Gwelir fod yr ysgol wedi dechreu er's deng mlynedd ar hugain cyn bod yma eglwys. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'r cyfryw, i'r Hen Gapel a'r Capel Gwyn yr oedd yn rhaid myned i gael pregeth a chyfarfod eglwysig, ac am yr ugain mlynedd arall i'r Neuadd-ddu a Bethesda. Cafodd y crefyddwyr cyntaf, y rhai a elent i'r Capel Gwyn, brofi yn helaeth o anhawsderau gyda chrefydd. Byddent yn myned dros Cefntrwsgwl, trwy goed y Cymerau, a thrwy Geunant Sych, lle tywyll, garw, am bedair milldir o bellder.