Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

ydym yn gwybod. Hyn sydd sicr, yn ngwyneb pob penderfyniad a wneid gan y plwyfolion, nid oedd dim yn tycio, ond dylifai y bobl yma trwy y blynyddoedd.

Bu cyfyngdra mawr ar drigolion y parth hwn o'r wlad, amryw droion, yn ystod y rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc, o 1793 i 1815. Blwyddyn felly oedd 1795. Gwnaed casgliad i gynorthwyo y trigolion, yr hwn a amrywiai yn y rhoddion "o geiniog a dimai Peter Jones, Hafod-y-mynydd, i gini W. Oakeley, Ysw., Tanybwlch." Ond ni chyrhaeddodd y casgliad ond 3p. 11s. 10½c. Blynyddoedd o galedi na wyr yr oes hon ddim am danynt oeddynt 1798, 1799, 1800. Cyfododd pris yr ymborth y flwyddyn olaf o'r tair, fel yr oedd y blawd erbyn mis Ebrill yn 8s. 6c. y cibyn, pryd nad oedd yn 1782 ond 1s. 6c. y cibyn. Gwnaed casgliad o 23p. i'r rhai oedd mewn eisiau y flwyddyn hon eto. Llawer o son a glywyd gan yr hen bobl am y prinder ymborth yn 1815, blwyddyn brwydr Waterloo, ac am yr hanesyn canlynol, yr hwn a ysgrifenwyd yn gryno gan y Parch. G. Williams; Talsarnau, ac a geir yn ei ysgrifau ar "Pandy'r Ddwyryd," yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothol, am y flwyddyn 1880,—"Aeth Mr. Thomas Williams, Goruchwyliwr y Ddiffwys, i Leyn i chwilio am lwyth o flawd ceirch. Bu yn llwyddianus. Cytunwyd ei fod i'w anfon i Dremadog ar ddydd Gwener, y diwrnod marchnad, ac yr oedd trol o Ffestiniog i fyned yno i'w geisio. Yr oedd llawer o'r trigolion yn disgwyl yn bryderus am y llwyth blawd; ond er eu mawr siomedigaeth, dychwelodd y drol yn wag, a hysbyswyd hwy fod y blawd wedi ei roddi dan glo yn Nhremadog, dan yr esgus nad oedd yno ddigon i ddiwallu angen trigolion y dref. Wedi i'r dynion gyfarfod yn y gwaith dranoeth, a deall agwedd pethau, penderfynasant fyned i Dremadog i ymofyn y blawd. Cychwynasant oll yn fintai gyda'u gilydd. Yr oedd Mr. William Casson (meistr y gwaith) yn eu cyfarfod yn myned tua'r chwarel, a gofynodd, I ba le yr wyt ti yn myn'd