Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/171

Gwirwyd y dudalen hon

fedrusrwydd ac effeithioldeb ei harolygwyr. Y diweddar Morris Llwyd, Cefngellewm, oedd yr arolygwr, hyd ei farwolaeth yn Medi, 1867; a Mr. Jarrett ar ei ol hyd ei farwolaeth yntau yn Ionawr, 1888. Rhif yr ysgol pan gasglwyd y cyfrif gyntaf yn 1819 oedd 93. O'r flwyddyn hon hyd 1870, amrywiai y rhifedi o 120 i 290. Ar y cyntaf, ni chynhelid ond dau foddion y Sabbath-ysgol y boreu a phregeth y prydnhawn. Y daith yn 1816 oedd, Ffestiniog, Cwmprysor, Trawsfynydd. Anfynych y cynhelid cyfarfod gweddi, elai y bobl i ganlyn y pregethwr i'r lleoedd eraill yn y daith. Ond yr oedd cyfarfod gweddi wedi dyfod yn beth cyffredin cyn ymadael o'r hen gapel, ac yr oedd tri o ddosbarthiadau wedi eu trefnu i gynal cyfarfodydd gweddi yn eu cylch, sef Dosbarth Thomas Hugh, Morris Llwyd, ac Evan Williams. Blaenor y gân ar y cyntaf oedd Robert Roberts, y siopwr; dilynwyd ef gan Benjamin Edwards. Bu diwygiad mawr yn y capel hwn, y fath na chyffyrddodd â'r un o'r ardaloedd cylchynol. Ychwanegwyd y pryd hwnw at rif yr eglwys yn y lle y nifer o bedwar ar ddeg a thriugain. Bu y Moriah cyntaf hwn yn gartref Methodistiaeth am un mlynedd a deugain, sef o'r flwyddyn 1798 i 1839. Prif hyrwyddwyr a blaenoriaid yr achos hyd yr adeg yma oeddynt,-

RICHARD JARRETT.

Crybwyllwyd am dano eisoes fel y prif offeryn i ddwyn pregethwyr i ardal Trawsfynydd. Dywedir yn ei gofiant ei fod yn un o bererinion Sion. Prawf o hyny ydyw ei sel a'i ffyddlondeb mawr gyda'r achos yn ei gychwyniad. Yr oedd ei onestrwydd a'i dduwioldeb yn engraifft deg o'r to cyntaf o grefyddwyr Cymru. Am dano ef, dybygid, yr adroddir yr hyn a ganlyn, pan yr oedd ei amgylchiadau bydol wedi dyrysu, ac y gorfuwyd gwneyd arwerthiant ar ei bethau, "Gwerthwch nhw i gyd (meddai), gwerthwch nhw i gyd; hyd yn nod llwy bren, hyd yn nod llwy bren; talu i bawb sydd arnaf fi eisiau."