Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/176

Gwirwyd y dudalen hon

rhodd gan John Davies, Ysw., Fronheulog, ac R. Roberts, Ysw., Tŷ'nycoed. Dyddiad y Weithred ydyw 1848. Trwy ymdrech yr ardal, ac elw oddiwrth gyngerdd a roddwyd yn rhad gan gor Bethesda, talwyd y ddyled yn 1849.

Mae y daith wedi ei threfnu fel y mae yn awr, sef Trawsfynydd, Cwmprysor, ac Eden, er y pryd y sefydlwyd achos yn Mlaenau Ffestiniog, yn y flwyddyn 1819. Er fod yr eglwys yn un o'r rhai hynaf, yn gymhariaethol ddiweddar y cynyddodd yn ei rhif. Nifer y cymunwyr yn 1848 oedd 85. Cafodd yr eglwys ymweliad grymus yn y Diwygiad 1858- 1859. Trodd llawer o bechaduriaid at yr Arglwydd y pryd hwn. Ymunodd â'r eglwys yn Nhrawsfynydd y nifer o dri-arddeg a thriugain, ac y mae effeithiau yr ymweliad yn aros hyd y dydd heddyw.

Ar ol yr arweinwyr canu cyntaf y crybwyllwyd am danynt, bu David Roberts, y blaenor ffyddlawn, yn cymeryd gofal caniadaeth y cysegr. Wedi hyn, Griffith Williams, Tŷ'nrhedyn. Ar eu hol hwy daeth William Owen, Muriau, i gymeryd gofal yr adran yma o'r gwaith, a bu llewyrch da ar y canu cynulleidfaol o dan ei arolygiaeth ef. Ond yn yr oes bresenol y mae dadblygiad elfenau cerddoriaeth wedi gwneuthur cynydd mawr rhagor a fu. Ar ol W. O., daeth Robert Jones (Eos Prysor), yn flaenor y gâu, ac efe sydd yn llanw y swydd eto, a dau eraill wedi eu nodi yn gynorthwywyr iddo.

Yn y flwyddyn 1869, daeth yr eglwys i'r penderfyniad o gael gweinidog, a rhoddwyd galwad i'r Parch. William Jones, yr hwn oedd y pryd hyny yn weinidog yn Llanllyfni. Y mae ef wedi bod mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys hyd yn awr.

Y blaenoriaid, heblaw y rhai a nodwyd eisoes, oeddynt,-

EVAN WILLIAM, FACTORY.

Dewiswyd ef i'r swydd, fel y tybiwn, yn yr hen gapel, yn