Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/182

Gwirwyd y dudalen hon

Cwmprysor i'w gyd-gynal. Llawer gwaith y cyfododd y teimladau crefyddol yn uchel, ac y bu molianu hyfryd ar hyd y Cwm hwn. Mynych y clywid llais Sara Dafydd, Bodyfudda, yn gorfoleddu, o glogwyn i glogwyn, ac o fryn i fryn, trwy holl blwyf Trawsfynydd, weithiau ganol dydd ac weithiau ganol nos. Cofir am un noswaith yn arbenig pan yr oedd John Williams, Llecheiddior, a Robert Owen, Llanrwst, yn pregethu yn y Cwm, a'r ysbryd wedi disgyn mewn modd neillduol ar bawb oedd yn y lle, y gynulleidfa yn ferw gwyllt drwyddi, a'r ddau bregethwr wedi ymuno â'r gwrandawyr yn neidio oddiar y llawr gan ddiolch a molianu. Nid oes neb all ddweyd pa bryd y sefydlwyd yr eglwys yn Nghwmprysor. Dichon ei bod wedi ei sefydlu cyn adeiladu y capel. Mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi cael bob amser yr un manteision gweinidogaethol a Thrawsfynydd. Nid oedd neb wedi eu galw i fod yn flaenoriaid yma hyd Ionawr 1826. A methasom a chael gwybodaeth am neb fu yn gwasanaethu y swydd o hyny hyd yn awr ond y rhai canlynol,-

WILLIAM JARRETT, GLANLLAFAR.

Yr oedd ef yn berthynas agos i'r gŵr a roddodd ei dŷ gyntaf i dderbyn pregethu yn mhlwyf Trawsfynydd, ac yn un o linach y Jarretts sydd yn lliosog yn y wlad hyd heddyw. Heblaw amaethwr, yr oedd William Jarrett yn borthmon, ac felly yn dilyn llawer ar anifeiliaid, a dywediad Dafydd Rolant, y Bala, am dano ydoedd, "ei fod wedi cael gras wrth gynffon y fuwch." Mae yn lled amlwg, pa fodd bynag, ei fod ef wedi cael gras, sut bynag yr oedd wedi ei gael, oblegid tystiolaethai ei gymydogion am dano y byddai yn gofalu dyfod adref i'r Cwm erbyn noson seiat a noson cyfarfod gweddi pen mis o ffeiriau Sir Gaernarfon, a holl ffeiriau y wlad.

WILLIAM DAFYDD, BODYFUDDA.

Yr oedd ef, mae'n debyg, yn un o'r blaenoriaid cyntaf, ac yr