athrylith, a'i hynawsedd." Diffyg mawr ynddo i flaenori ydoedd diffyg prydlondeb. Yr oedd tuedd i ymdroi ac ymlusgo ynddo gyda phob peth, y byd a chrefydd yr un ffunud. Gofynai Mr. Humphreys unwaith mewn Cyfarfod Misol, wrth holi am yr achos yn Maentwrog,—"A ydych yn dyfod i'r cyfarfodydd yn lled brydlon yma, William Ellis?" "Wel, Mr. Humphreys bach," atebai yntau, "yr ydym yn myned o bob cyfarfod gyda'n gilydd yn daclus." Ond er y ffaeleddau hyn a berthynent iddo, ystyrid ef yn un o flaenoriaid hynotaf ei oes. Ysgrifenwyd hanes ei fywyd pan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, mewn llyfr bychan a elwir "[[Yr Hynod William Ellis]]."
JOHN JONES, BRYNTWROG.
Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Mawrth laf, 1869. Bu farw Ionawr 26ain, 1881. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion fel brodor o'r ardal, a pherchid ef yn fawr ar gyfrif ei liaws rhagoriaethau. Yr oedd yn ŵr tawel a heddychlon, ac o gymeriad dilychwin. Arno ef y gorphwysai y rhan drymaf o'r gwaith yn y Capel Uchaf am flynyddoedd, ac yr oedd ei golli yn golled drom. Mae ei fab ar ei ol wedi dechreu dwyn yr iau er yn ieuanc.
DAVID HUGHES.
Bu yntau yn ŵr ffyddlon yn ol ei amgylchiadau. Syrthiodd llawer o'r baich ar ei ysgwyddau yntau cyn diwedd ei oes, ac ymgymerodd âg ef yn ewyllysgar. Mawr fyddai y boddhad wrth ei weled yn mwynhau moddion gras, ac yn gofalu am amgylchiadau yr eglwys. Daeth ei yrfa i derfyniad yn lled. annisgwyliadwy ar ddiwedd 1885, tra nad oedd ond cymbarol ieuanc.
Neillduwyd Mr. Evan Nanney Evans yn flaenor yma Medi, 1861, symudodd i Gaernarfon; Mr. Griffith Pritchard, Mawrth, 1869,—symudodd gyda'r eglwys i'r Capel Isaf; Mr.