Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/199

Gwirwyd y dudalen hon

arfer Fethodistaidd dda o anfon anifail i gyrchu y pregethwr. Y flwyddyn gyntaf ar ol sefydlu yr eglwys, sef ar ddiwedd 1867, rhifai y gwrandawyr 84; yr Ysgol Sul, 50; y cymunwyr, 29. Gwnaed ychydig o adgyweiriad a chyfnewidiadau ynglyn â'r capel tuag 1869.

Y ddau flaenor cyntaf a ddewiswyd-a hyny yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ol sefydlu yr eglwys-oeddynt Richard Jones, Canycoed, a Rowland Edwards, Tynewydd. Derbyniwyd y naill yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Mehefin, a'r llall Medi, 1867. Ymadawodd Rowland Edwards ymhen ychydig o'r ardal y mae yn awr yn flaenor yn eglwys Bowydd. Bu Richard Jones yn flaenor hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 17eg, 1881, yn 72 oed. Gwasanaethodd y swydd yn hynod o ffyddlon. Yr oedd gyda'r achos o'i gychwyniad cyntaf; bu trymder y gwaith yn pwyso ar ei ysgwyddau, gan mai efe oedd unig flaenor yr eglwys dros amryw flynyddau. Rhoddai ei bresenoldeb yn fynych yn y Cyfarfodydd Misol, a gwnaeth ei ran yn ganmoladwy tra parhaodd ei oes. Yn nechreu 1877, dewiswyd Edward Evans, Llenyrch, i'r swydd; ond ymhen tua phum' mlynedd, symudodd i drigianu i ardal y Gwynfryn, ac y mae yn awr yn flaenor yno.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. Evan Jones, Canycoed, er y flwyddyn 1881; William Evans, Llenyrch, ac Ellis Jones Ellis, er 1889.

Y mae yn deilwng o goffhad fod teulu caredig Llenyrch Farm wedi bod yn dra chymwynasgar i'r achos o'i gychwyniad cyntaf.

Rhif y gwrandawyr yn awr ydyw 35; Ysgol Sul, 26; cymunwyr, 28.

MAENTWROG ISAF.

Mae yr hanes am Maentwrog Isaf yn gyfyngedig i'r ugain