Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/217

Gwirwyd y dudalen hon

Felin y Wern. Gwm Croesor i'r Penrhyn, tlawd iawn ydoedd. Nid wyf yn cofio am un o'r Cwm yn Fethodist. Y 'Batus Bach,' fel eu gelwid, oedd yn meddianu yr holl ardal o Groesor i Lanfrothen. Yr oeddynt yn selog ac erlidgar, fel yr oedd yn gofyn cryn sel a gwroldeb i fod yn Fethodist yn yr ardal. Y Parch. John Jones, Ramoth, fyddai yn pregethu iddynt; dyn tâl, syth; hen lanc, yn lodgio yr ochr arall i'r nant o'r Park (Gareg Fawr), mewn lle anial ac unig. Dyn call, ysgolor da, a meddyg galluog; ymresymwr cryf, a phregethwr medrus. Gwisgai gôb werdd led oleu, a botymau melyn mawr arni; yn hynod ymhob peth bron ar bawb arall. Disgyblion iddo ef oedd yr oll yn y plwyf hwn, fel y mae y fynwent yn ymyl ei gartref yn profi."

Yn y flwyddyn 1861, meddyliwyd am adeiladu capel yn ardal Croesor gan y Methodistiaid. Cymeradwywyd cynlluniau y capel gan y Cyfarfod Misol. Prynwyd coed angenrheidiol tuag at adeiladu, ond digalonwyd a gwerthwyd hwy drachefn. Ail benderfynwyd i gael capel yn 1863. Yr oedd dau foneddwr erbyn hyn yn barod i roddi tir. Cafwyd mwyafrif y trigolion o blaid ei gael ar dir D. Williams, Ysw., A.S., Castelldeudraeth, am fod y llecyn hwnw yn fwy canolog i'r gymydogaeth. Cytunwyd am y tir, a'r pris am dano ydoedd 50p. am byth. Pan aed i dalu am dano, ysgrifenodd yr hen foneddwr parchus receipt am y swm, a chyflwynodd hi i Mr. T. Williams gan ddywedyd, "Rhowch yr arian yna yn ol yn eich pocket at dalu am adeiladu y capel." Cyflwynodd y Cyfarfod Misol ddiolchgarwch calonog i'r boneddwr am ei gefnogaeth a'i haelioni. Capel bychan oedd hwn—un llath ar ddeg wrth naw, a thŷ wrth ei ochr. Agorwyd ef Rhagfyr 4, 1863, pryd y pregethwyd gan y Parchn. D. F. Davies, Pwllheli; D. Jones, Llanelltyd; a Thomas Gray. Oherwydd fod y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym, aeth y capel yn rhy fychan y flwyddyn gyntaf ar ol ei agor. Aed ati i'w helaethu, a gorphenwyd