Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlawn am flynyddau lawer. Un peth a'i hynodai ydoedd ei sel mewn dyfod i foddion gras Meddai yntau ar ddawn neillduol i siarad ar unrhyw fater, a mynych y gwnelai hyny yn effeithiol yn y cyfarfodydd eglwysig, pan yn cymhwyso pregethau y Sabbath at ei anghenion ei hun a'i gydaelodau. Yr oedd yn hyddysg yn ngair Duw, a byddai yn wastad yn hynod am ei daerni o flaen gorsedd gras. Efe oedd ysgrifenydd yr eglwys yn y blynyddoedd diweddaf o'i oes. Gwnaeth lawer o waith gyda'r Ysgol Sul. Bu yn llywydd y Cyfarfod Ysgolion am rai blynyddau, a dangosodd lawer o sel gyda hyn hefyd. Bu farw Tachwedd 25, 1889, yn 53 mlwydd oed.
Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. Thos. Williams, er 1857; Hugh G. Roberts, er 1888; Daniel Jones a Silvanus J. Owen (1890).
Heb fod ymhell o'r ardal hon yr oedd cartref y pregethwr melus a dylanwadol Morris Anwyl. Yr oedd yn fab i Robert Anwyl y soniwyd am dano. Efe a anwyd Ebrill 16, 1814. Bu dros ryw dymor yn Athrofa y Bala. Dilynid ei bregethu âg eneiniad mwy na'r cyffredin, a disgwylid pethau mawrion oddiwrtho. Ond torwyd ef i lawr yn ebrwydd; bu farw Awst 12, 1846, yn 32 oed. Mewn amser diweddar cyfododd dau i bregethu o'r eglwys hon, sef y Parchn. O. T. Williams, Rhyl, a D. D. Williams, Peniel, Ffestiniog. Y mae Miss Williams, yr hon sydd wedi myned allan i'r maes cenhadol yn Sylhet, yn enedigol o Groesor, ac wedi ei magu yn yr eglwys hon. Merch ydyw i Manoah Williams, yr hwn y gwnaethpwyd coffhad am dano uchod fel un o flaenoriaid yr eglwys. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn mis Medi, 1889, croesawyd hi gan y frawdoliaeth yn y sir, ar ei hymgysegriad i fod yn un o'r cenhadon dros yr Iesu i'r India. Cychwynodd oddicartref i'w thaith i Sylhet Hydref , 14, 1889.