Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/223

Gwirwyd y dudalen hon

Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys:—Parchn. O. T. Williams, 1877-78; T. E. Roberts, M.A., 1886-88; D. D. Williams, 1888-89; D.O'Brien Owen, 1889, hyd yn awr.

Rhif y gwrandawyr, 186; cymunwyr, 102; Ysgol Sul, 138.

RHIWBRYFDIR.

Capel y Rhiw ydoedd y trydydd, o ran trefn ac amser, a adeiladwyd gan y Methodistiaid yn Mlaenau Ffestiniog, a'r eglwys ymgynulledig ynddo ydoedd y drydedd gangen a ffurfiwyd o fewn i'r un cylch. Ymwahanodd y gangen hon oddiwrth eglwys Tanygrisiau yn y flwyddyn 1856, megis yr oedd Tanygrisiau wedi ymwahanu oddiwrth Bethesda, ddeunaw mlynedd yn flaenorol. Perthyna i ardal y Rhiw gryn lawer o hanes, cyn bod eglwys wedi ei ffurfio yn rheolaidd ynddi, yn enwedig mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Ysgrifenwyd hanes yr ysgol yn dra chyflawn gan Mr. T. J. Roberts, Ael-y- bryn, a chyhoeddwyd ef gydag Adroddiad yr Ysgolion Sabbothol am 1874. Mae y ffeithiau dyddorol a gasglwyd ynghyd y pryd hwnw yn werth eu corffori a'u cadw, fel rhan o weithrediadau yr eglwys hon.

Oddeutu 1820, nid oedd neb yn proffesu crefydd yn y rhan yma o'r ardal gyda'r un enwad, oddieithr un wraig, sef Ellin Williams. Bu Ysgol Sul yn cael ei chynal gan yr Annibynwyr dros ryw ysbaid o amser yn Rhiwfawr; ond, oherwydd colli ei phrif noddwr, bu raid ei rhoddi i fyny. Yn y cyfamser, teimlai ychydig deuluoedd a breswylient yn y Cwm, y rhai oeddynt yn magu plant, awydd cryf am i'w plant gael eu dysgu i ddarllen y Beibl. Yn ngrym yr awydd hwn, aeth William Jones, Griffith Ellis, Owen Dafydd, ac Isaac Edwards, i Neuadd-ddu (yno yn unig y cynhelid pob moddion crefyddol yn y Blaenau y pryd hwn), i gyfarfod athrawon, er gosod y cais gerbron. Yr oedd hyn tua Hydref, 1825. Yr oeddynt