21 oed, ac yn fuan wedi ei ddyfodiad yma, neillduwyd ef i'r swydd gan yr eglwys hon. Bu yn swyddog am 17 mlynedd rhwng y ddau le. Yr oedd yn wr ieuanc gweithgar gyda chrefydd, yn hynod am ei dduwiolfrydedd, ac am ei wybodaeth Ysgrythyrol. Colled fawr i eglwys y Rhiw oedd colli y fath un. Bu farw Ebrill 30, 1871, yn 38 oed.
HUGH DANIEL HUGHES.
Brodor ydoedd ef o Rostryfan. Yr oedd yn arwain y canu yn Nhanygrisiau cyn dyfod i fyny i'r Rhiw. Prif nodwedd ei gymeriad ydoedd manylder. Gwnaeth lawer gyda chaniadaeth y cysegr, yn neillduol gyda'r plant, a mawr oedd ei sel am eu dysgu mewn moesau da. Seren ydoedd yntau a fachludodd yn foreu. Gwasanaethodd swydd blaenor ychydig dros ddwy flynedd, a bu farw Rhagfyr 26, 1859, yn 37 oed.
ROBERT OWEN.
Brodor o Rostryfan oedd yntau. Daeth i Ffestiniog fel goruchwyliwr yn chwarel Mr. Holland. Codwyd ef yn swyddog yn y Rhiw, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Tachwedd 1857. Gwnaeth lawer o wasanaeth gyda'r achos cyn bod yn swyddog eglwysig, ac yr oedd yn un o'r rhai a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw gydag adeiladu y capel cyntaf yn y Rhiw, a chymerodd lawer o drafferth arno ei hun drachefn i ddwyn oddiamgylch adeiladu y capel presenol. Un yn dewis gweithio o'r golwg ydoedd ef. Er hyny, yr oedd yn wr o synwyr cryf, barn addfed, a phenderfyniad diysgog, yr hyn a roddai iddo ddylanwad nid bychan ymhob cylch o ddefnyddioldeb. Heblaw bod yn ffyddlon i achos crefydd, mawr fu ei wasanaeth hefyd i addysg yr ardal. Bu farw yn 1869.
EVAN THOMAS, LLECHWEDD.
Un o frodorion Ffestiniog ydoedd ef. Dewiswyd ef yn flaenor ar y cyntaf yn Peniel, ac wedi hyny yn Maentwrog; a