Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/239

Gwirwyd y dudalen hon

ar feddwl pawb ei fod yn wir Gristion, ac y mae ei goffadwriaeth yn berarogl yn yr eglwys lle yr oedd yn swyddog.

GAREGDDU

Y crybwylliad cyntaf ar lyfrau y Cyfarfod Misol am yr achos yn y Garegddu, ydyw y penderfyniad canlynol a basiwyd yn Aberdyfi, Chwefror 7, 1870:—"Yn gymaint a bod arwyddion cynydd mawr mewn adeiladu yn Ffestiniog, rhwng y Rhiw a'r Tabernacl, barnai y cyfeillion yno yn ddoethineb iddynt sicrhau tir cyfleus i adeiladu capel yn y lle, a gofynent gydsyniad y Cyfarfod Misol i hyny. Rhoddwyd cydsyniad yn ebrwydd, ac amlygwyd llawenydd am fod hyn yn eu calon." Yn yr un Cyfarfod Misol penodwyd deuddeg o bersonau yn ymddiriedolwyr. Ond oherwydd rhyw amgylchiadau bu oediad ynglyn â symud ymlaen i sicrhau y tir. Trwy ymdrech y Parch. T. J. Wheldon, B.A., yn benaf, yr hwn a aeth at y tirfeddianydd yn bersonol, y llwyddwyd o'r diwedd i gael tir mewn man cyfleus, a dechreuwyd casglu yn effeithiol at y capel. Dyddiad y brydles ydyw 1876.

Derbyniwyd adroddiad oddiwrth y swyddogion, cynwys yr hwn ydyw yr hyn a ganlyn. Tua dechreu y flwyddyn 1871, teimlid anesmwythder yn meddyliau rhai brodyr yn y Tabernacl ynghylch y nifer mawr oedd yn esgeuluso yr Ysgol Sabbothol ar hyd y gymydogaeth, a dygwyd y mater i sylw yr athrawon ar ddiwedd yr ysgol, a phenderfynwyd sefydlu cangen ysgol yn nghymydogaeth Dolgaregddu. A'r Sabbath cyntaf o Ebrill, y flwyddyn hono, sefydlwyd hi yn nhŷ Mr. John Evans. Nid dyma y tro cyntaf i'r teulu hwn groesawu yr Ysgol Sabbothol, canys bu eu tŷ yn gartref i gangen ysgol arall, pan oeddynt yn byw yn Tainewyddion, Diphwys. Y brodyr a ymgymerasant a'i sefydlu oeddynt Mr. J. Parry Jones, gynt o Lanberis, a Mr. Richard Hughes, yn awr o Borthmadog. Ei rhif y Sabbath cyntaf oedd deg, ond cynyddodd yn gyflym hyd nes yr