Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn y lle o'i flaen ef gyrchu a danfon brethynau i bentref Trawsfynydd ar y Sabbath. Y Sul cyntaf y daeth John Prichard i'r pentref, cyrchai y bobl o'i amgylch i ymofyn am eu brethynau a'u gwlaneni. "Deuwch yma ddydd Llun, y Sul yw hi heddyw," ebe yntau. Bu hyn yn ddechreuad marchnad Trawsfynydd ar ddydd Llun, yr hon a barhaodd yn hir felly.

Ymhyfrydai yr ieuenctyd mewn chwareu-gampau, a phob drygfoes a ffynent yr amseroedd hyn, megis y bêl, y bêl droed, ymladd ceiliogod, nosweithiau llawen, interliwdiau, y ddawns, cyfeddach a diota, a'r holl ddrygau cyffelyb, y rhai y medrai hyd yn nod cyfrwysdra tywysog y tywyllwch eu llunio i gyfarfod â chwaeth natur lygredig. Ymgyfarfyddai y werin bobl yn nhai eu cymydogion, pob tŷ yn ei dro, i adrodd a gwrando ystraeon, a chwedlau gwag am fwganod ac ysbrydion, a'r tylwyth teg, a'r hwch ddu gwta." Treulid nosweithiau hirion y gauaf, yn arbenig gan yr ieuenctyd, i adrodd a gwrando y cyfryw chwedlau. Arhosodd dylanwad y pethau hyn yn y wlad am o leiaf ddeugain mlynedd ar ol sefydliad yr Ysgol Sabbothol. Yn Ngoleuad Cymru am Mawrth 1827, mewn byrgofiant am Mr. Richard Jarrett, o Drawsfynydd, yr hwn a dreuliodd ddechreu ei oes yn y fyddin ddu, ond a ddaeth wedi hyny yn un o bererinion Seion, dywedir,—"Ymhyfrydai yn fawr mewn dawns, a chardiau, a chwareuyddiaethâu gwageddol, a difyrwch annuwiol ei gydoeswyr. Ond oddeutu y flwyddyn 1778, pan ydoedd ar ei liniau wrth erchwyn ei wely, ar fedr dywedyd Gweddi yr Arglwydd, yr hon a ddysgasid iddo gan ei rieni, ac y dechreuai ddywedyd 'Ein Tad,' &c., ei gydwybod a'i hatebodd yn y geiriau a ddywedodd ein Hiachawdwr wrth yr Iuddewon—'O'ch tad diafol yr ydych chwi,' &c.; cyrhaeddodd y saeth ei galon, a bu y geiriau am ddyddiau yn brif destyn ei fyfyrdodau. A phob tro y cynygiai ddweyd, 'Ein Tad,' &c., deuai y geiriau hyn fel saethau i'w galon, llanwent ei feddwl â dychryn a braw, cauent ei safn,