Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/248

Gwirwyd y dudalen hon

yn ysgrifenydd. Cadwodd yr ysgrifenydd gofnodion am y ddwy flynedd a chwarter cyntaf, yn cynwys pob peth pwysig mewn cysylltiad a'r ysgol, ynghyd â'r holl symudiadau yn dal perthynas âg adeiladu y capel. Ymhen y mis wedi cychwyn yr ysgol, dechreuwyd casglu yn fisol tuag at gael addoldy newydd. Penodwyd Lewis Jones yn drysorydd, a John Thomas yn ysgrifenydd. Ymhlith manylion eraill yn Llyfr y Cofnodion, ceir nodiad i'r perwyl a ganlyn,-"Teimlir yn awyddus i gyfodi addoldy newydd i gyfarfod â'r gymydogaeth newydd sydd yn awr yn cael ei ffurfio, rhag i bobl a phlant fyned yn baganiaid, oherwydd fod y Garegddu yn llawn a'r Rhiw ymhell." Chwefror 1, 1880, derbyniwyd adroddiad y pwyllgor a gyfarfyddodd yn y Garegddu mewn perthynas i gael addoldy newydd ar y Fron Fawr. Sicrhawyd tir i adeiladu, ar brydles o 75 mlynedd, am ardreth flynyddol o 5p., a thalwyd 14p. 14s. am wneyd y weithred. Yn Nghyfarfod Misol Medi 1880, "Cymeradwywyd cynlluniau capel newydd Bowydd. Bwriedir iddo gynwys 700 o wrandawyr, ac i'r draul fod tua 2000p." Dygid y gweithrediadau ymlaen, cyn ffurfiad yr eglwys, trwy gydolygiad swyddogion y Rhiw a'r Garegddu, ynghyd âg arweinwyr yr Ysgol Sabbothol yn yr Assembly Room. Yn yr adeg yma penodwyd Mr. R. Rowland, U.H., y Bank, i fod yn arweinydd yr ysgol, ac i hyrwyddo y gwaith o adeiladu ymlaen. Aeth y capel yn fwy o faint nag a fwriedid ar y cyntaf, a chwyddodd y draul hefyd yn fwy na'r swm a osodid mewn golwg. Cynwysa le i oddeutu 800 eistedd ynddo. A'r dystiolaeth gyffredinol ydyw ei fod yn rhagori ar gapelau y gymydogaeth mewn destlusrwydd a chysur. Y cynllunydd oedd, Mr. O. M. Roberts, Porthmadog; adeiladydd, Mr. W. Owen, Rhiwbryfdir. Swm y contract, 2190p. 10s.; ychwanegol am yr ysgoldy ynghyd â chau y terfynau o'i amgylch, 378p. 11s. 2c. Ond oddiwrth yr ystadegau argraffedig y flwyddyn gyntaf ar ol ei orpheniad, sef ar ddiwedd 1882,