Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/252

Gwirwyd y dudalen hon

caredigrwydd iddo. Mewn gwirionedd, cariodd Mr. Wheldon holl gyfrifoldeb yr achos ar ei ysgwyddau ei hun, yn ei sefydliad a'i ddygiad ymlaen, hyd nes y talwyd dyled y capel.

Yn y dechreu, buwyd mewn peth anhawsder i gael personau cymwys i arwain yr eglwys. Un o'r rhai cyntaf a ymgymerodd a'r gwaith gydag egni ac ymroddiad tra chanmoladwy ydoedd, Mr. O. P. Jones, is-oruchwyliwr yn chwarel y Welsh Slate, am yr hwn y gwneir sylw coffadwriaethol ar y diwedd. Yn nechreu y flwyddyn 1878, ymunodd Mr. Griffith Griffiths, Slate Quarries School, a thua diwedd yr un flwyddyn Mr. G. J. Williams, F.G.S., Advanced Elementary School, ond y pryd hwnw yn athraw Ysgol y Bwrdd, yn Nhanygrisiau, ynghyd â rhai o athrawon ac athrawesau eraill yr ysgolion dyddiol, â'r achos Saesneg, y rhai a fuont mewn gwirionedd yn asgwrn cefn iddo. Neillduwyd Mri. Griffith Griffiths, a G. J. Williams, yn flaenoriaid yn Chwefror 1880. Mr. Superintendent O. Hughes hefyd, yr hwn am dymor byr fu yn preswylio yn y Blaenau, a wnaeth wasanaeth yma yn y cyfwng hwn. Tuag amser agoriad y capel, ymunodd Mr. E. H. Millward a'i deulu, a Mr. E. H. Jonathan, Fourcrosses, a'r eglwys, trwy symud o'r Tabernacl. Ac yn mis Awst 1876, neillduwyd Mr. Jonathan a Mr. Edwards, Dentist, yn flaenoriaid. Ar ol bod yn ddefnyddiol gyda'r achos, yn neillduol gyda'r plant, symudodd Mr. Edwards i fyw i Borthmadog. Yn y flwyddyn 1883 rhoddwyd galwad i'r Parch. O. E. Williams, yr hwn a fu mewn cysylltiad a'r eglwys, ac yn weithgar yn yr ardal hyd ddiwedd 1886, pan yr ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Saesneg Rhosllanerchrugog. Yma y cychwynodd Mr. E. O. Davies, B.Sc., bregethu, yr hwn sydd yn awr yn Mansfield College, Oxford. Y mae gŵr ieuanc addawol arall, sef Mr. John David Jones, yn awr yn myned trwy y dosbarth fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Mae yr eglwys yn bresenol mewn sefyllfa lewyrchus, y gwrandawyr yn rhifo 90; y cymunwyr, 40; yr Ysgol Sul, 70; Mri. G. J.