Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

gwisgo mantelli gwynion ar y Suliau. Honai ei bod wedi gadael ei gŵr, ac wedi priodi Crist. Cafodd gan amryw bobl dywyll yn ardaloedd y Traeth Bach, Ffestiniog, Penmachno, a manau eraill, y rhai y dywedid eu bod o dan ryw argraffiadau crefyddol, gredu ynddi a dyfod yn ddisgyblion iddi. Antinomiaeth ddigymysg oedd ei daliadau. Byddai hi a'i chanlynwyr yn cadw cyfarfodydd dirgelaidd mewn tai lle yr oedd rhai o'i disgyblion yn byw. Ac ar y Sabbothau, gwelid hwy yn myned allan yn fintai, mewn gwisgoedd gwynion, i ben y bryniau a'r mynyddoedd, a chlywid eu swn gan y trigolion islaw, yn llefain mewn lleisiau tebyg i hyn, Pw! Pw! Hwi! Yr oedd un hen Gristion yn fyw yn 1868, yr hon a welodd y fintai yn myned heibio drws yr Hen Gapel, sef capel cyntaf y Methodistiaid yn Llan, Ffestiniog, ac wrth weled rhai yn myned i'r capel, gwaeddai yr hwn oedd yn blaenori y fintai, "Dacw nhw yn myn'd ar eu penau i uffern." Yn mhentref Ffestiniog lluniwyd Neithior Priodas yr Oen gyda rhwysg a llawenydd mawr; anfonwyd anrhegion i'r dwyll-wraig, gwisgwyd hi yn wych â mantell goch gostfawr ar draul ei chanlynwyr, gan fyned i Eglwys y Plwyf, ac oddiyno i'r dafarn i ddiweddu y Sabbath. Yr oedd Mari wedi perswadio ei chanlynwyr na byddai hi ddim marw. Er hyny marw a wnaeth yn dra thruenus, yn ardal Talsarnau. Cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddisgwyl iddi adgyfodi; ond gyda mawr siomedigaeth, cludwyd ei gweddillion i fynwent Llanfihangel, yn nghymydogaeth Talsarnau. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1789. Felly ni pharhaodd ei thymor ond yn brin ddeng mlynedd. Glynodd ei disgyblion wrth ei daliadau dros ychydig amser wedi iddi hi farw, ond hwy oll a wasgarwyd, a'u twyll a ddiflanodd o flaen goleuni a gallu yr efengyl. [1]

  1. Traethodydd, 1858, tudal. 42. Drych yr Amseroedd, Argrafflad diweddaf, 91.